Pan fyddwch yn cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, cewch y cyfle i symud ymlaen i’r diploma lefel tri mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau ysgafn yng Ngholeg Ceredigion.
Fel arall, gallai llwyddiant ar y cwrs ddarparu llwybr at brentisiaeth neu gyflogaeth yn y diwydiant modurol.
Byddwch hefyd yn dilyn llwybr sgiliau lle byddwch yn datblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Os nad oes eisoes gennych y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch, byddwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.