Diploma Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 1 Flwyddyn

  • Campws Aberteifi

Mae dod yn fecanydd yn gallu bod yn ddewis gyrfaol gwerth chweil i’r rheiny sydd â diddordeb mewn gweithio gyda cherbydau ac sy’n mwynhau datrys problemau.

Mae'r cwrs yn darparu rhaglen astudio y gellir ei chyflawni o fewn blwyddyn. 

Mae'n annog dilyniant i'r dysgwyr hynny sydd eisoes wedi cwblhau cwrs lefel dau cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur yn flaenorol, neu i’r technegwyr profiadol hynny heb gymwysterau sydd am ennill achrediad.

Mae'r cwrs yn darparu'r hyfforddiant a'r datblygiad sydd eu hangen ar fyfyrwyr sydd â diddordeb brwd yn y sector modurol sy'n dymuno symud ymlaen i addysg uwch neu lefel gradd.    Mae'n cwmpasu sylfaen eang o beirianneg fodurol ac, er ei fod yn seiliedig ar waith ymarferol, mae’n canolbwyntio ar y theori y tu ôl i'r technolegau diagnostig sy'n gysylltiedig â'r diwydiant modurol.

Nodweddion y Rhaglen
  • Dilyniant o fewn addysg i’ch paratoi ar gyfer eich cam nesaf  
  • Paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y sector galwedigaethol priodol
  • Hyfforddiant ymarferol a damcaniaethol yn y maes modurol a defnyddio cyfarpar cysylltiedig
  • Mae hwn yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
Cynnwys y Rhaglen

Dangosir i chi sut i gyflawni amrywiol weithdrefnau ymarferol safonol y diwydiant sy'n cynnwys tasgau fel diagnosteg cod nam, diffygion trawsyriant a llinell yriant a gwiriadau/gweithdrefnau MOT.

Cewch eich asesu wrth gyflawni'r tasgau hyn, lle mae'n ofynnol i chi lunio portffolio ymarferol.

Mae’r theori wedi ei rannu yn bum uned amrywiol sy'n cynnwys:

  • Diagnosis/cywiro diffygion injan
  • Diffygion siasi
  • Diffygion trawsyriant a llinell yriant
  • Diffygion ategol a thrydanol
  • Gweithrediadau Cerbyd Trydan.

Yna dilynir y rhain gan bum prawf amlddewis ar-lein, sy’n cael eu trefnu ar hyd y flwyddyn academaidd.

Byddwch hefyd yn dilyn llwybr sgiliau lle byddwch yn datblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd cwblhau’n llwyddiannus yn caniatáu i chi symud ymlaen i ddysgu lefel uwch a dysgu lefel prifysgol

Mae posibilrwydd hefyd o symud ymlaen i'r rhaglen brentisiaeth fodurol, sy'n caniatáu i chi ennill cymhwysedd pellach o fewn y diwydiant modurol.

Dull asesu

Seilir yr asesu ar dasgau ymarferol, portffolio o dystiolaeth a hefyd pum prawf theori ar-lein GOLA.

Gofynion Mynediad

Bydd hi’n ofynnol eich bod wedi cyflawni:

Pump TGAU graddau A* i C, sy’n cynnwys naill ai Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg. 

Neu fod wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel dau yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol gyda theilyngdod neu uwch. 

Rhoddir ystyriaeth yn ogystal i ddysgwyr sydd â phrofiad blaenorol perthnasol yn y diwydiant.

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB