Lefel 2 mewn Therapi Harddwch

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • Blwyddyn

  • Campws Aberteifi

Mae therapi harddwch yn yrfa sy’n amrywiol iawn gan y gall arwain at rolau mewn salonau, sbas, llongau gwyliau a gwestai.

Os ydych yn awyddus i ddechrau gyrfa yn y diwydiant harddwch, mae hwn yn gwrs cyffrous, a fydd yn eich galluogi i weithio gyda'r cyhoedd yn ein cyfleuster salon o’r radd flaenaf, Academi Steil, sy'n salon masnachol cwbl weithredol.      Byddwch yn dysgu ac yn datblygu sgiliau ymarferol o ran rhoi triniaethau dwylo, triniaethau traed, triniaethau i’r wyneb, cwyro, iechyd a diogelwch, triniaethau llygad (tintio a siapio), blew amrant unigol, colur a gwaith derbynfa.

Byddwch hefyd yn astudio anatomeg a ffisioleg i ennill gwybodaeth greiddiol am yr unedau uchod.

Nodweddion y Rhaglen

Mae ein salonau gwallt a harddwch yn eithriadol ac yn caniatáu i chi hyfforddi a gweithio mewn amgylchedd salon masnachol, gan weithio ar aelodau'r cyhoedd yn wythnosol. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i fynychu: sioeau masnach, seminarau, gweithdai yn ogystal â theithiau a drefnir sy’n gysylltiedig â’r sector a chymryd rhan mewn cystadlaethau. 

Dilyniant a Chyflogaeth

Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r cwrs, gallwch symud ymlaen i harddwch lefel tri.  Bydd y cwrs hwn hefyd yn eich paratoi ar gyfer diwydiant ac yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio mewn salonau, sbas, siopau adrannol, gwestai a llongau gwyliau.    Mae llawer o fyfyrwyr o Goleg Ceredigion wedi mynd ymlaen i sefydlu eu busnesau eu hunain neu i weithio i sbas yn eu hardal leol ac ymhellach i ffwrdd. Mae hwn yn gwrs rhagorol sy'n darparu’r cyfle i chi hogi eich sgiliau gwasanaeth cwsmer, i weithio gyda'r cyhoedd ac i adeiladu enw da a chronfa gleientiaid. 

Gall harddwr/harddwraig weithio mewn llawer o ddiwydiannau fel gwestai a sbas yn rhoi triniaethau amrywiol megis triniaethau i’r wyneb, triniaethau ewinedd a chynnig cyngor arbenigol mewn amgylchedd proffesiynol. 

Dull asesu

Cewch eich asesu’n ymarferol yn y salon a bydd angen i chi sefyll profion uned i arddangos eich gwybodaeth yn y pynciau uchod.

Gofynion Mynediad

4 TGAU graddau A* - D gyda 2 radd C, un naill ai’n Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu fathemateg. Neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol. Mae croeso i fyfyrwyr hŷn heb gymwysterau a gellir eu derbyn yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus.

Bydd pob dysgwr yn dilyn llwybr sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.

Costau Ychwanegol

Mae prynu tiwnig harddwch a chit harddwch yn un o ofynion y cwrs.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Cyrsiau Cysylltiedig


Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB