Mae'r cymhwyster lefel un hwn wedi'i gynllunio i greu sylfeini cadarn ar gyfer y rheiny sydd ag uchelgais i gael gyrfa yn y diwydiant trin gwallt. Mae’n cwmpasu gwasanaethau trin gwallt sylfaenol a bydd yn rhoi sail dda i chi allu symud ymlaen i gyrsiau pellach. Wrth ddysgu yn salon masnachol y coleg, byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i gyflawni eich llwybr gyrfa fel trinydd gwallt.
Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu arbenigedd ymarferol a gwybodaeth hanfodol am y diwydiant. Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cyfleoedd ymarferol i chi sy’n caniatáu i chi roi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon trin gwallt go iawn.
Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn cael eich asesu trwy brofion sgiliau ymarferol ac aseiniadau/arholiadau ysgrifenedig a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'r modiwlau rydych yn eu hastudio.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Aberteifi
Nodweddion y Rhaglen
Mae ein salonau wedi’u cynllunio’n benodol at ddibenion hyfforddi ac mae ganddynt yr holl gyfarpar ac adnoddau diweddaraf. Bydd angen i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig iawn ac yn barod i weithio fel rhan o dîm. Fel adran rydym yn awyddus i annog myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau mewnol a chenedlaethol hefyd.
Yn ogystal rydym yn cynnal diwrnodau cyfoethogi sy’n cynnwys, hyfforddiant affinage, tyllu clustiau, estyniadau gwallt a cholur theatrig. Byddwch yn ogystal yn cael y cyfle i fynychu sioeau masnach, seminarau, gweithdai yn ogystal â theithiau a drefnir sy’n gysylltiedig â’r sector.
Mae’r coleg yn rhedeg salon hyfforddi masnachol sy’n agored i’r cyhoedd ac sy’n darparu amgylchedd gwaith go iawn, gan ganiatáu i chi gael ymdeimlad o sut y bydd yn teimlo i weithio yn y diwydiant. Mae yna bwyslais hefyd ar eich cynorthwyo i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol.
Byddwch yn rhan o raglen ffyniannus o weithgareddau gan gynnwys teithiau a digwyddiadau ynghyd â chymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol sy’n gallu arwain at waith cystadleuaeth rhyngwladol.
Cynnwys y Rhaglen
Rydych yn dysgu gyda’ch aseswr drwy sesiynau ymarferol, trafodaethau grŵp neu aseiniadau. Bydd gennych fynediad i amgylchedd trin gwallt realistig lle byddwch yn ymarfer ac yn arddangos eich sgiliau.
Rhestrir unedau’r cwrs yn y disgrifiad o’r rhaglen. Mae pob uned yn cynnwys elfen o waith theori a gwaith ymarferol hefyd. Bydd gwaith rhifedd a llythrennedd integredig yn ogystal o fewn yr unedau gan y bydd disgwyl i ddysgwyr
Dilyniant a Chyflogaeth
Os byddwch yn dilyn gyrfa mewn Trin Gwallt mae’n bosibl y gallwch ennill cyflogaeth drwy unrhyw rai o’r llwybrau canlynol:
-Salonau
-Hunangyflogedig
-Gwestai a Sbaon
-Llongau gwyliau
- Theatr a Ffilm
Asesu'r Rhaglen
Caiff gwaith ymarferol ei asesu gan ddefnyddio dulliau arsylwi a thystiolaeth cynnyrch. Bydd y gwaith theori yn cael ei asesu gydag arholiad amlddewis ar-lein.
Gofynion y Rhaglen
Tri TGAU graddau A* i G naill ai mewn Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu fathemateg neu gyfwerth. Rhaid mynychu a bod yn llwyddiannus mewn cyfweliad.
Bydd pob dysgwr yn dilyn llwybr sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch hyd yn hyn yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Costau Ychwanegol
Mae cit trin gwallt o gwmpas £140
Mae iwnifform o gwmpas £80
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557. Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB