Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad gwych i’r diwydiant harddwch ac arno byddwch yn dysgu sgiliau harddwch sylfaenol i’ch paratoi i weithio yn y sector harddwch.
Mae hwn yn gyfle delfrydol i ennill rhywfaint o hyder a dangos eich doniau creadigol gyda chefnogaeth gan diwtoriaid harddwch profiadol.
Mae’r cwrs yn cynnwys: triniaethau dwylo, triniaethau traed a chelf ewinedd sylfaenol, gofal y croen, colur sylfaenol a cholur ffotograffig, creu delwedd, peintio wynebau sylfaenol, dyletswyddau derbynfa, iechyd a diogelwch, cyflwyniad i’r sector harddwch, gweithio gydag eraill a chyflwyno delwedd broffesiynol.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Aberteifi
Nodweddion y Rhaglen
Mae ein salonau gwallt a harddwch wedi’u cynllunio’n benodol at ddibenion hyfforddi ac mae ganddynt yr holl gyfarpar ac adnoddau diweddaraf. Bydd angen i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig iawn ac yn barod i weithio fel rhan o dîm.
Fel adran rydym yn awyddus i annog myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau mewnol a chenedlaethol hefyd. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i fynychu sioeau masnach, seminarau, gweithdai yn ogystal â theithiau a drefnir sy’n gysylltiedig â’r sector
Cynnwys y Rhaglen
Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ennill gwybodaeth weithredol gadarn am y diwydiant harddwch ac ar ennill sgiliau ymarferol gwych. Yn ogystal, byddwch yn gallu cymryd rhan mewn cystadlaethau mewnol ac rydym yn cymryd rhan yng nghystadlaethau’r Urdd yn rheolaidd. Fel adran rydym yn gwahodd siaradwyr gwadd o’r diwydiant i rannu eu sgiliau a dangos eu gwaith.
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus byddwch yn gallu symud ymlaen i ddiploma lefel dau mewn harddwch. Cewch gefnogaeth i ddod o hyd i’r llwybr iawn sy’n addas i chi.
Asesu'r Rhaglen
Asesiadau ymarferol ac aseiniadau.
Gofynion y Rhaglen
Tri TGAU graddau A* - G naill ai mewn Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af) neu fathemateg neu gyfwerth. Rhaid mynychu a bod yn llwyddiannus mewn cyfweliad.
Bydd pob dysgwr yn dilyn Llwybr Sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth.
Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Costau Ychwanegol
Fel rhan o’r cwrs mae'n ofynnol eich bod yn prynu tiwnig harddwch a chit harddwch.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch
Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557. Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB