Cyfarwyddiadau eduroam.

Sut i ddefnyddio eduroam

Er mwyn defnyddio eduroam mae'n rhaid i chi osod eich cyfrifiadur/dyfais yn gyntaf. Y ffordd orau yw i osod yr offeryn eduroam CAT, ewch i http://cat.eduroam.org a dilynwch y canllawiau.

Os nad yw eich dyfais arlein, lawrlwythwch yr offeryn cat a rhowch ef ar gof bach, ewch i ymweld â ThG neu Ganolfan Adnoddau Dysgu i ddefnyddio'r gosodwr CAT ar gof bach, neu dilynwch y cyfarwyddiadau â llaw isod.

Ynghylch eduroam

eduroam (education roaming) yw'r gwasanaeth mynediad crwydro rhyngrwyd diwifr, diogel a ddatblygwyd ar gyfer y gymuned ymchwil ac addysg.

Mae eduroam yn caniatáu i fyfyrwyr a staff gysylltu â'r Rhyngrwyd ar draws y colegau, ysgolion, prifysgolion ac ysbytai sy'n cymryd rhan heb unrhyw ffurfweddiad pellach.  (http://www.eduroam.orghttps://www.ja.net/products-services/janet-connect/eduroam

Gwasanaeth rhwydwaith diwifr yw eduroam sy'n defnyddio technolegau mwy diogel ac effeithlon sy'n caniatáu i ni gysylltu'n ddiogel â'r rhyngrwyd. Yn seiliedig ar dechnoleg dilysu 802.1x mae'r gwasanaeth hwn yn cefnogi'r rhan fwyaf o ddyfeisiau; fodd bynnag, mae rhai dyfeisiau megis consolau gemau, nad ydynt yn cael eu cefnogi gan y gwasanaeth eduroam. Ni chefnogir y dyfeisiau canlynol ar eduroam gan nad ydynt yn cefnogi'r dechnoleg sylfaen WPA2 Enterprise/AES:

  • Microsoft X-Box 360
  • Sony Playstation 3
  • Nintendo DSi
  • Google Chromecast
  • Apple Airplay
  • Nintendo Wii
  • Sony PSP
  • Y rhan fwyaf o Argraffwyr Diwifr

Cyfarwyddiadau â Llaw

    1. Bydd yr opsiynau nesaf hyn yn amrywio ychydig fesul dyfais.
    2. Ewch i'ch gosodiadau diwifr
    3. Adiwch, a theipiwch neu dewiswch rwydwaith eduroam ar gyfer y ssid - Nodwch yr 'e' fach yn eduroam
    4. EAP Method: PEAP
    5. Phase-2 authentication: MSCHAPv2
    6. Teipiwch eich manylion mewngofnodi Coleg username@colegsirgar.ac.uk a'r cyfrinair
    7. Os oes yna flwch 'anonymous identity', rhowch anonymous@colegsirgar.ac.uk i amddiffyn eich preifatrwydd.
    8. Nesaf, er eich bod wedi eich cysylltu, mae eich cysylltiad yn anniogel, llwythwch i lawr yr offeryn eduroam cat o http://cat.eduroam.org a dilynwch y canllawiau.

Diogelwch Cyfrifiadurol

Mae hefyd yn bwysig iawn bod eich system weithredu yn gyfoes ac yn cael ei hamddiffyn gan feddalwedd gwrth-firws.

Gosod diweddariadau diogelwch

Mae unrhyw gyfrifiadur sydd wedi'i gysylltu â rhwydwaith y Coleg a'r Rhyngrwyd yn darged ar gyfer defnyddwyr anawdurdodedig a all geisio cael mynediad i'ch system. Gallai ymyrwyr wylio pob dim rydych yn ei wneud ar y cyfrifiadur, achosi difrod trwy ddileu ffeiliau neu newid eich data, neu ddwyn gwybodaeth werthfawr fel cyfrineiriau neu rifau addasu credyd. Fel arall, efallai na fydd gan ymyrwyr ddiddordeb yn eich data chi, ac yn hytrach maent am reoli eich cyfrifiadur fel y gallant ei ddefnyddio i lansio ymosodiadau i amharu ar systemau eraill. Mae rhai ymosodiadau o'r enw mwydod yn lledaenu'n awtomatig o un system fregus i un arall. Peidiwch â meddwl "ni fyddai gan ymosodwr fyth ddiddordeb ynof i": gall mwydod awtomataidd heintio ac amharu ar filiynau o gyfrifiaduron.

Gallai ymosodiad ar eich cyfrifiadur fod yn llwyddiannus mewn tair prif ffordd:

  • Darganfyddir gwendidau newydd (tyllau) trwy'r amser mewn meddalwedd cyfrifiadurol. Gellir manteisio ar y tyllau hyn i ennill mynediad. Mae gwerthwyr meddalwedd yn atgyweirio'r tyllau trwy gynhyrchu clytiau neu fersiynau newydd, ond chi sy'n gorfod dod o hyd i, a gosod yr atgyweiriadau hyn.
  • Fe allech gael eich denu i redeg trojan neu firws. Mae trojan yn edrych fel rhywbeth arall i'ch annog chi i glicio arno ond ei ddiben mewn gwirionedd yw agor drws cefn ar eich cyfrifiadur. Mae firysau'n cael eu lledaenu wrth iddynt heintio rhaglenni cyfrifiadurol cyfreithlon eraill. Mae trojans a firysau yn aml yn cael eu lledaenu trwy atodiadau ar negeseuon e-bost, rhannu ffeiliau a negeseua, a gallant ymddangos eu bod yn dod wrth rywun rydych chi'n gwybod sydd hefyd wedi'i heintio.
  • Mae gan rai meddalwedd osodiadau (y rhagosodiad weithiau) sy'n caniatáu i ddefnyddwyr eraill gael mynediad i'ch cyfrifiadur oni bai eich bod chi'n newid y gosodiadau fel eu bod yn fwy diogel. Er enghraifft, gall rhannu ffeiliau a adeiladwyd i mewn i Windows adael i ddefnyddwyr eraill i weld, addasu neu ychwanegu ffeiliau ar eich disg galed, sy'n risg amlwg oni bai ei fod wedi'i ddiffodd neu wedi'i ffurfweddu'n ofalus.

Er mwyn sicrhau nad yw eich cyfrifiadur yn agored i ymosodiad, mae angen i chi:

  • Osod clytiau meddalwedd neu fersiynau newydd i atgyweirio tyllau rydych yn gwybod amdanynt.
  • Dilyn cyngor i newid gosodiadau meddalwedd er mwyn bod yn fwy diogel, neu beidio â rhedeg meddalwedd rydych yn gwybod ei fod yn anniogel o gwbl.
  • Er mwyn osgoi trojans neu firysau, peidiwch â rhedeg ffeiliau anhysbys ac atodiadau na ofynnwyd amdanynt.
  • Defnyddiwch feddalwedd gwrth-firws cyfoes.
  • Cadwch gopïau o ddata pwysig wrth gefn ar ddisg, CD neu weinydd rhwydwaith.

 

Crwydro

eduroam (education roaming) yw'r gwasanaeth mynediad crwydro rhyngrwyd diwifr, diogel a ddatblygwyd ar gyfer y gymuned ymchwil ac addysg.

Mae eduroam yn caniatáu i fyfyrwyr, ymchwilwyr a staff gael cysylltiad â'r Rhyngrwyd ar draws y campysau ac wrth ymweld â sefydliadau eraill sy'n cymryd rhan trwy yn syml agor eu gliniadur neu gysylltu eu dyfais symudol.

Defnyddwyr sy'n Ymweld

Bydd Defnyddwyr sy'n Ymweld o sefydliadau eraill sy'n cymryd rhan yn eduroam yn cael mynediad llawn i'r Rhyngrwyd (fel yn ôl manyleb JRS2) tra'n cysylltu trwy eduroam yng Ngholeg Sir Gâr. Dylai Defnyddwyr sy'n Ymweld gysylltu â'u sefydliad cartref ar gyfer unrhyw gymorth technegol a dylent sicrhau bod eu dyfais wedi'i ffurfweddu i weithio ar eu gwasanaeth 'eduroam' lleol cyn ceisio cysylltu yng Ngholeg Sir Gâr.

Defnyddwyr Cartref

Tra yng Ngholeg Sir Gâr mae Defnyddwyr Cartref yn cael eu hidlo yn unol â Pholisi Rhyngrwyd a Systemau TG y coleg a rhaid iddynt ddefnyddio Dyfais Hidlo'r We y coleg (neu Weinydd Dirprwyol).  Tra'n crwydro mewn sefydliad arall efallai na fydd hidlo yn ei le (yn unol â manyleb JRS2).  Fodd bynnag, mae'n rhaid i ddefnyddwyr barhau i gadw at y Polisi Rhyngrwyd a Systemau TG, oherwydd gall unrhyw weithgaredd anaddas tra'n crwydro gael ei olrhain yn ôl i'r defnyddiwr. Cyn crwydro i sefydliad arall. Dylai defnyddwyr cartref sicrhau bod eu dyfais wedi'i chysylltu a'i ffurfweddu ar gyfer defnyddio'r gwasanaeth eduroam.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB