Cynigia’r diploma gyfle i chi astudio ystod o unedau o wahanol sectorau yn y gyfres, gan gefnogi dilyniant i astudiaeth bellach. Byddwch yn ennill sylfaen dda yn y gwahanol feysydd pwnc rydym yn eu cynnig yn y coleg fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus ynghylch yr hyn rydych chi’n dymuno dilyn yn fanwl y flwyddyn ganlynol.
Mae'r cwrs yn addas ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno ennill hyder mewn addysg bellach ac i'r rheiny sy'n ansicr ynghylch yr union faes pwnc y maen nhw am ei astudio'n llawn amser.