Mae'r cwrs hwn ar gyfer ymgeiswyr sy'n gweithio neu sy'n dymuno gweithio fel saer ar safle neu asiedydd mainc yn y sector adeiladu. Bydd y cwrs yn rhoi’r wybodaeth a'r sgiliau i chi wneud gwaith gosodiad cyntaf lloriau a thoeon, yn unol â'r rheoliadau iechyd a diogelwch a rheoliadau adeiladu presennol mewn prosiectau adeiladu newydd a gwaith adnewyddu. Bydd y wybodaeth byddwch yn ei ddysgu yn eich galluogi i gwblhau gweithgareddau gwaith saer cymhleth; bydd yn darparu gwybodaeth am y cydrannau a'r deunyddiau cysylltiedig, a'u defnydd mewn gwaith saer ac asiedydd.
Mae sgiliau’n cynnwys:
Defnyddio offer llaw gwaith coed ac offer llaw pŵeredig a’u defnydd ymarferol cysylltiedig mewn gorffeniadau mewnol a thasgau toi cymhleth.
Bydd yr elfen gwaith mainc asiedydd yn cynnwys tasgau gwaith asiedydd crwm cymhleth.
Cipolwg
Rhan-amser
Blwyddyn
Campws Aberteifi
Nodweddion y Rhaglen
Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu eich sgiliau a gwybodaeth er mwyn eich galluogi i weithio yn y diwydiant yn eich crefft ddewisol.
Datblygwyd ef yn benodol i'w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae'r profion wedi eu seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn.
Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol mewn cyfleusterau modern.
Mae'r cwrs yn caniatáu i chi ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau uwch sydd eu hangen ar gyfer cael gwaith a/neu ddilyniant gyrfaol mewn gwaith saer ar safle a’r diwydiant adeiladu.
Gallwch ymarfer y gweithgareddau hyn yn ein gweithdai pwrpasol, wedi eich addysgu gan ddarlithwyr profiadol, cymwys yn y diwydiant. Mae’n cwmpasu’r sgiliau canlynol:
Deall egwyddorion trefnu, cynllunio a phrisio gwaith adeiladu
Cynnal gwaith gosodiad cyntaf lloriau, toi a grisiau a thasgau mwy cymhleth a ddisgwylir gan saer coed
Cynnal gwaith ail osodiad gan gynnwys drysau dwbl a mowldinau a thasgau mwy cymhleth a ddisgwylir gan saer coed
Gosod a defnyddio peiriannau sefydlog a chludadwy
Dilyniant a Chyflogaeth
Mae llwybrau dilyniant yn cynnwys:
Bod yn saer cyflogedig o fewn cwmni adeiladu lleol
Bod yn hunangyflogedig ar ôl cwblhau ychydig o flynyddoedd o brofiad
Parhau eich taith ddysgu trwy gofrestru ar gymhwyster goruchwylio lefel 4 yng Ngholeg Ceredigion
Asesu'r Rhaglen
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy'n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.
Gofynion y Rhaglen
Mae’n ofynnol eich bod wedi cyflawni diploma lefel dau mewn gwaith saer ac asiedydd, neu brofiad blaenorol mewn cyflawni gweithgareddau gwaith saer sy'n gyfwerth â rhaglen lefel dau gwaith saer ac asiedydd yn ogystal â chyfweliad llwyddiannus.
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol
Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557. Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB