Ffon: 01239 612032
Ebost: enquiries@ceredigion.ac.uk

Diploma Lefel 1 mewn Gwaith Saer ac Asiedydd


Corff Dyfarnu:

Sector:

Addysg bellach

Hyd y Rhaglen:

Blwyddyn

Cyflenwi Dwyieithog:

Gellir astudio'r cwrs hwn yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd

Rhaglen Disgrifiad

Mae'r diploma Lefel 1 hwn yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau gwaith saer ac asiedydd. Mae'n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cael gwaith a/neu ddilyn gyrfa mewn gwaith saer neu asiedydd. Byddwch yn cynhyrchu amrywiaeth o uniadau gwaith coed cysylltiedig â gwaith saer sy'n cael eu defnyddio yn y diwydiant ac yn defnyddio gwahanol offer llaw ac offer pwer yn ddiogel. Hefyd, bydd unedau egwyddorion adeiladu adeiladau, gwybodaeth a chyfathrebu yn rhoi cyflwyniad i chi i dechnoleg adeiladu.

Rhaglen Nodweddion

Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr er mwyn eu galluogi i weithio yn y diwydiant yn eu crefft ddewisol. Datblygwyd ef yn benodol i'w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae'r profion wedi eu seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn. Mae’r coleg yn darparu cyfleuster cynllun agored mawr gyda’r dechnoleg ddiweddaraf ynddo sy’n caniatáu ymgymryd ag ystod eang o dasgau cysylltiedig â’r diwydiant.

Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.

Dilyniant a Chyflogaeth

Mae cyfleoedd ar gyfer dilyniant yn cynnwys prentisiaethau neu gymhwyster diploma lefel 2 llawn amser a fydd yn darparu datblygiad pellach a dealltwriaeth o'r diwydiant adeiladu.

Dull Asesu

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy'n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, fodd bynnag mae gallu ymarferol yn fantais. Mae mynediad yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus.

Blwyddyn Academaidd Cyflenwi Campws Blwyddyn Academaidd Opsiynau cwrs
2018 - 2019 Full Time Cardigan Campus 1 Year Ymholidarllen mwy Gwneud Cais
2019 - 2020 Full Time Cardigan Campus 1 Year Ymholidarllen mwy Gwneud Cais
Campws Cyfeiriad Cod post
Aberystwyth Campus Llanbadarn Fawr,
Aberystwyth,
Ceredigion
SY23 3BP
Cardigan Campus Maes y Parc,
Aberteifi,
Ceredigion
SA43 1AB