Ffon: 01239 612032
Ebost: enquiries@ceredigion.ac.uk

Diploma Lefel 2 mewn Gwaith Saer ac Asiedydd a NVQ mewn Galwedigaethau Coed


Corff Dyfarnu:

Sector:

Addysg bellach

Hyd y Rhaglen:

Blwyddyn, Rhan-amser

Cyflenwi Dwyieithog:

Gellir astudio'r cwrs hwn yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd

Rhaglen Disgrifiad

Mae’r diploma Lefel 2 hwn yn datblygu sgiliau gosodiad cyntaf ac ail osodiad gwaith saer ynghyd â gweithgareddau cynnal a chadw a defnyddio llif gron. Mae'n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cael gwaith a/neu ddilyn gyrfa mewn gwaith saer neu asiedydd. 

 Byddwch yn cwblhau amrywiaeth o dasgau cysylltiedig â gwaith saer sy'n cael eu gwneud yn y diwydiant ac yn defnyddio gwahanol offer llaw ac offer pwer yn ddiogel. Hefyd, bydd unedau egwyddorion adeiladu adeiladau, gwybodaeth a chyfathrebu yn rhoi cyflwyniad i chi i dechnoleg adeiladu.

Rhaglen Nodweddion

Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr er mwyn eu galluogi i weithio yn y diwydiant yn eu crefft ddewisol. Datblygwyd ef yn benodol i'w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae'r profion wedi eu seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn. Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.

Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i raglen brentisiaeth yn amodol ar gyfweliad a bydd hyn yn darparu datblygiad pellach a dealltwriaeth o'r diwydiant adeiladu.

Dull Asesu

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy'n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.

Gofynion Mynediad

Diploma Lefel 1 mewn gwaith Saer ac Asiedydd, a chyfweliad llwyddiannus. Dylech hefyd gael eich cyflogi yn y Diwydiant Adeiladu.

Blwyddyn Academaidd Cyflenwi Campws Blwyddyn Academaidd Opsiynau cwrs
2018 - 2019 Part Time Cardigan Campus 2 Years Ymholidarllen mwy Gwneud Cais
Campws Cyfeiriad Cod post
Aberystwyth Campus Llanbadarn Fawr,
Aberystwyth,
Ceredigion
SY23 3BP
Cardigan Campus Maes y Parc,
Aberteifi,
Ceredigion
SA43 1AB