Mae gan y Coleg tua 9,000 o ddysgwyr, gyda rhyw 3,000 ohonynt yn llawn amser a 6,000 yn rhan-amser. Ceir yno tua 900 o ddysgwyr addysg uwch. Mae hefyd yn cynnig ei ddarpariaeth ar-lein, trwy bartneriaethau mewn lleoliadau cymunedol ac yn y gweithle.
Mae gan y Coleg ystod gynhwysfawr ac eang o raglenni dysgu academaidd a galwedigaethol. Mae'r rhain yn amrywio o lefel cyn mynediad i raglenni graddedig, gan ddarparu gwasanaeth i'r gymuned ddysgu gyfan. Mae'n cynnig addysg bellach, addysg oedolion a'r gymuned, addysg uwch, dysgu yn y gwaith a rhaglenni a gwasanaethau pwrpasol ar gyfer datblygu busnes. Mae'n darparu hefyd ar gyfer nifer fawr o ddisgyblion ysgol 14-16 oed sy'n mynychu'r Coleg neu'n cael eu dysgu gan staff y Coleg yn eu hysgolion.