©️ Gary Short Photography
©️ Gary Short Photography
Campws Aberystwyth Coleg Ceredigion yw prif leoliad y Gyfadran Creadigrwydd a Gofal ac mae wedi ei leoli mewn man gwyrdd ac agored sy'n edrych dros Fae Ceredigion. Mae gan yr holl ystafelloedd addysgu a TG sgriniau rhyngweithiol CTouch mawr yn ogystal ag ystod o gyfleusterau addysgu gydag adnoddau o safon diwydiant.
Mae yna Ardal Ymlacio fodern lle gall dysgwyr gymdeithasu, ymlacio neu ailfywiogi rhwng gwersi yn ogystal â Bwyty Blasus, sy'n gweini brecwast a chinio. Hefyd, mae gan y campws Ganolfan Adnoddau Dysgu a Llyfrgell sydd wedi'i staffio'n llawn yn ogystal ag ardaloedd arbenigol i gefnogi addysg a hyfforddiant mewn nifer o Feysydd Cwricwlwm. Mae'r rhain yn cynnwys:
Mae'r campws yn hyrwyddo amgylchedd cefnogol a gofalgar gyda staff arbenigol wrth law i gynnig cyngor, cyfarwyddyd a chymorth. Mae profiad y dysgwr yn flaenllaw yn ein cymuned ddysgu. Dewch draw i ymweld â'n campws a chewch groeso cynnes ar unrhyw adeg.
Campws Aberteifi Coleg Ceredigion yw prif leoliad y Gyfadran Sgiliau a Thechnoleg ac mae wedi'i leoli ger canol y dref gyda mynediad hawdd i'r holl gyfleusterau lleol. Mae gan yr holl ystafelloedd addysgu a TG sgriniau rhyngweithiol CTouch mawr yn ogystal ag ystod o gyfleusterau addysgu gydag adnoddau o safon diwydiant.
Mae yna Ardal Ymlacio fodern lle gall dysgwyr gymdeithasu, ymlacio neu ailfywiogi rhwng gwersi yn ogystal ag Y Cantîn, sy'n gweini brecwast a chinio. Hefyd, mae gan y campws Ganolfan Adnoddau Dysgu a Llyfrgell sydd wedi'i staffio'n llawn yn ogystal ag ardaloedd arbenigol i gefnogi addysg a hyfforddiant mewn nifer o Feysydd Cwricwlwm. Mae'r rhain yn cynnwys:
Mae'r campws yn hyrwyddo amgylchedd cefnogol a gofalgar gyda staff arbenigol wrth law i gynnig cyngor, cyfarwyddyd a chymorth. Mae profiad y dysgwr yn flaenllaw yn ein cymuned ddysgu. Dewch draw i ymweld â'n campws a chewch groeso cynnes ar unrhyw adeg.