Dyddiadau dechrau addysgu ar gyfer gwahanol fathau o ddarpariaeth
Sylwch y bydd tiwtor eich cwrs mewn cysylltiad gyda gwybodaeth fwy penodol ynghylch dyddiadau dechrau cyrsiau
Hyfforddeiaethau
27 Gorffennaf ymlaen
Dysgwyr Addysg Bellach Llawn Amser
7 Medi
Dysgwyr Mynediad Sgiliau Byw’n Annibynnol
7 Medi (Cysylltir â Rhieni/Gofalwyr yn unigol)
Ysgolion 14-19
7 Medi
Mynediad i Addysg Uwch
14 Medi
Rhaglenni prentisiaeth
14 Medi
Addysg Bellach ran-amser (oddi ar y campws)
14 Medi
Addysg Uwch
21 Medi
Addysg Bellach ran-amser (ar y campws)
28 Medi
Capasiti’r campysau ar gyfer mis Medi (Dydd Llun 7fed i ddydd Gwener 25ain)
Ni fydd mwy na 50% o fyfyrwyr o unrhyw gyfadran ar y campws ar unrhyw un adeg ym mis Medi (hyd at Fedi 25ain). Bydd hyn yn caniatáu cyfnod setlo o 3 wythnos ar draws yr holl gampysau. Bydd eich Tiwtor yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ar y diwrnod cyntaf y byddwch chi’n mynychu’r Coleg.
Bydd y capasiti hwn yn cael ei adolygu a gall newid ym mis Hydref. Adeg y gwyliau hanner tymor, bydd y capasiti ar gyfer y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig yn cael ei osod.
Ni fydd y 50% yn berthnasol i ddarpariaeth Ysgolion, lle bydd disgwyl i’r holl ddisgyblion fynychu.
Cynefino dysgwyr newydd
Mae safle cynefino Google canolog wedi’i wneud ar gael i bob dysgwr sydd wedi cofrestru - defnyddiwch y cod QR hwn i gael mynediad. Bydd y cyfnod cynefino yn dechrau o 7 Medi.
Bydd y cyfnod cynefino yn para am yr wythnos gyntaf a bydd yn gymysgedd o fynediad o bell a mynediad ar y campws.
Cyn bo hir bydd hi’n amser cofrestru yn y Coleg. Bydd cofrestru 2020 yn cael ei gwblhau naill ai ar-lein neu yn bersonol yn y Coleg. Bydd hyn yn dibynnu ar eich astudio blaenorol.
Myfyrwyr sy’n dychwelyd: Os oeddech chi gyda ni’n llawn amser yn 2019-20, dylech allu cwblhau eich holl weithgarwch cofrestru ar-lein ac mae’n annhebygol y bydd rhaid i chi fynychu sesiwn gofrestru ar y campws. Gwybodaeth ddiweddaraf gan y prifathro - Dysgwyr Presennol
Myfyrwyr newydd: Bydd y rheiny ohonoch sy’n newydd i’r Coleg a heb astudio’n llawn amser gyda ni o’r blaen, yn cael gwahoddiad i ddod i mewn i’r Coleg i gofrestru. Bydd hyn yn cael ei reoli'n ofalus yn unol â gweithdrefnau COVID-19. Ar ddiwedd y ddogfen hon rhoddir amserlenni’r campws a’r pwnc i fyfyrwyr newydd. Gwybodaeth ddiweddaraf gan y prifathro - Dysgwyr Newydd
Proses Gofrestru Raddol
Bydd cofrestru yn canolbwyntio ar wahanol feysydd pwnc ar ddiwrnodau gwahanol. Cewch eich gwahodd i fynychu naill ai sesiwn fore neu brynhawn a rhaid sicrhau eich bod yn mynychu’r sesiwn gofrestru gywir. Caniateir i chi ddod ag un person arall gyda chi - ee, rhiant neu warcheidwad.
Bydd angen i chi ddod â dull adnabod megis pasbort, tystysgrif geni, llythyr yswiriant gwladol, ac ati (yn ddelfrydol, rhywbeth ag enw ac yn ddelfrydol llun arno’n ogystal). Gofynnir i chi hefyd ddod i mewn ag unrhyw ganlyniadau TGAU neu arholiadau eraill diweddar.
Cwrdd Â’r Staff Addysgu
Fel myfyriwr newydd, byddwch yn cwrdd â staff addysgu wrth gyrraedd y campws i drafod opsiynau a chadarnhau eich rhaglen astudio. Yn dibynnu ar eich canlyniadau, byddwch yn cael eich neilltuo i raglenni priodol (ar Lefel Mynediad, 1, 2 neu 3) neu eich cyfeirio i gael cyngor pellach.
Cyfarfod Gyda’r Staff Cefnogi
Byddwch hefyd yn cwrdd â staff cefnogi i gadarnhau:
Dull adnabod
Manylion personol ar gyfer cofrestru
Talu’r ffi gweinyddu
Hysbysiadau GDPR a phreifatrwydd
Anghenion cludiant
Proses ymgeisio am LCA/GDC ac
Unrhyw anghenion cefnogi eraill
Amserlenni’r Campws A’r Pwnc
Aberystwyth
AM (9.00 - 12.00) PM (1.00 - 4.00)
Dydd Mercher 26 Awst
(AM) Iechyd a Gofal Cymdeithasol
(PM) Iechyd a Gofal Cymdeithasol