Entrepreneuriaeth.

Credwch yn eich hunan - dilynwch eich breuddwydion

Credwn fod entrepreneuriaeth yn ymwneud â dod o hyd i rywbeth rydych yn teimlo’n angerddol yn ei gylch a gweithredu i wneud y syniad neu gysyniad yn realiti. Mae llawer o fanteision i ddod yn entrepreneur gan gynnwys rhyddid, hyblygrwydd, a’r gallu i ddilyn eich breuddwydion a gwneud yr hyn rydych yn ei fwynhau.

Y camau cyntaf ...

Ydych chi’n teimlo eich bod wedi ‘mynd i rigol’? Os felly y mae, efallai byddai dechrau eich busnes eich hun yn gamau cyntaf i’ch cael ar y trywydd iawn … a gallwch wneud hyn tra’n dal i astudio yn y coleg gyda chefnogaeth eich Cydlynydd Entrepreneuriaeth.

‘Roeddwn yn teimlo mor hapus, rhydd, ac wedi cael rheolaeth ar fy mywyd. Oeddwn, roeddwn i’n nerfus ar y dechrau, nawr fy mod yn fos ar fy hun, alla i ddim aros i godi a chychwyn fy nydd’.

Mae cymaint i ddysgu pan ydych am ddechrau eich busnes eich hun.

Rydym yn cynnig Cymorth Busnes Am Ddim megis cyngor busnes dwyieithog un-i-un, cymorth cychwynnol, a chyfleoedd rhad ac am ddim i brofi masnach, cysylltiadau i ddiwydiannau eraill ar gyfer twf, cefnogaeth a gwybodaeth. Hefyd rydym yn cysylltu â Busnes Cymru a Syniadau Mawr Cymru.

Felly am beth rydych chi'n aros? Gweithredwch, anfonwch neges at Becky Pasg, Cydlynydd Entrepreneuriaeth a gwnewch eich breuddwydion yn realiti!

 

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB