Mae’r gweithgarwch dysgu ar gampws Rhydaman yn canolbwyntio ar iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant, ynghyd â chrefftau’r diwydiant adeiladu. Mae’r gyfadran Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn cynnal ystod eang o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch ar y campws, gan gynnwys NVQs a chyrsiau byrion mewn cynghori.