Sut ydw i’n cael mynediad i gymorth?
Mae cymorth ar gael drwy’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA). Mae’r DSA yn gynllun a ariennir gan y llywodraeth, nad oes angen prawf modd ar ei gyfer a all dalu am gymorth y gallai fod ei angen arnoch. Mae hyn i sicrhau nad ydych dan anfantais yn ystod eich astudiaethau.
Mae’r cynllun DSA yn gofyn am anfon tystiolaeth ymlaen at eich corff cyllido (e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru) gyda’ch cais DSA. Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr fodloni’r diffiniad o ‘anabledd’ fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Gall ein tîm eich cynorthwyo gyda’ch cais.
Pa gymorth sydd ar gael?
Os ydych yn gymwys, gall cymorth person-ganolog fod ar ffurf:
- Addysgu arbenigol un i un i gynorthwyo gyda threfnu a chynllunio, sgiliau ysgrifennu aseiniadau, gan un o'n darlithwyr arbenigol
- Mynediad i Gynorthwy-ydd Astudio i’ch cefnogi chi gyda threfnu, rheoli amser, ymchwil, ac ati
- Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain
- Cyfarpar arbenigol
- Technoleg gynorthwyol gan gynnwys meddalwedd
- Addasiadau arholiad fel amser ychwanegol
Ar ôl i'ch cais DSA gael ei gymeradwyo, gofynnir i chi fynychu Asesiad o Anghenion er mwyn nodi gofynion penodol eich cymorth. Caiff hwn ei gynnal mewn Canolfan Fynediad gymeradwy. Gallwn eich cefnogi drwy’r broses hon.
Ar ôl i chi dderbyn cadarnhad gan eich corff cyllido bod cefnogaeth wedi'i chymeradwyo (llythyr DSA2), gallwn drefnu eich cefnogaeth bwrpasol.