Gadael I Ni Wybod Am Eich Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae hi’n bwysig iawn, os ydych yn bwriadu mynychu’r coleg, eich bod yn hysbysu’r tîm Cymorth Dysgu ynghylch eich anghenion cymorth ar y cam cynharaf posibl a chyn eich cyfweliad. 

Mae hyn oherwydd rydym am fod yn siŵr y gallwn fodloni eich anghenion cymorth cyn i chi ymuno â'n cyrsiau.


DIWRNODAU AGORED  

Bydd aelod o’r tîm Cymorth Dysgu ar gael i drafod eich anghenion cymorth dysgu ychwanegol a sut orau i’ch cefnogi yn y coleg.


GWNEUD CAIS 

Gallwch roi gwybod i ni ar y ffurflen gais fod gennych chi anghenion dysgu ychwanegol a ph’un a ydych chi angen addasiadau rhesymol yn eich cyfweliad.

Gweld Cyrsiau


CYFWELIAD 

Yn ogystal gallwch chi ofyn bod aelod o’r tîm Cymorth Dysgu yn bresennol yn y cyfweliad i drafod eich anghenion cymorth.


COFRESTRU 

Hefyd yn ystod cofrestru, gallwch chi ofyn i gwrdd ag aelod o’n tîm i drafod eich anghenion cymorth ar gyfer pan fyddwch yn dechrau eich cwrs.  

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB