Campus slider - copy

©️ Gary Short Photography

Campus slider
previous arrow
next arrow

Campysau.

Campws Aberystwyth Coleg Ceredigion yw prif leoliad y Gyfadran Creadigrwydd a Gofal ac mae wedi ei leoli mewn man gwyrdd ac agored sy'n edrych dros Fae Ceredigion.   Mae gan yr holl ystafelloedd addysgu a TG sgriniau rhyngweithiol CTouch mawr yn ogystal ag ystod o gyfleusterau addysgu gydag adnoddau o safon diwydiant. 

Mae yna Ardal Ymlacio fodern lle gall dysgwyr gymdeithasu, ymlacio neu ailfywiogi rhwng gwersi yn ogystal â Bwyty Blasus, sy'n gweini brecwast a chinio.  Hefyd, mae gan y campws Ganolfan Adnoddau Dysgu a Llyfrgell sydd wedi'i staffio'n llawn yn ogystal ag ardaloedd arbenigol i gefnogi addysg a hyfforddiant mewn nifer o Feysydd Cwricwlwm. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Stiwdios Celf a Dylunio, Ffotograffiaeth, Ymarfer a Pherfformiad a Swît Olygu a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer y Celfyddydau Creadigol
  • Switiau Mac wedi eu cyfarparu’n llawn ar gyfer y Cyfryngau Creadigol
  • Labordy trwsio Cyfrifiaduron a stiwdio Gyfrifiadura wedi eu cyfarparu’n llawn ar gyfer TG
  • Labordy Gwyddoniaeth Modern ar gyfer Gofal
  • Y bwyty hyfforddi @Aberista ar gyfer Lletygarwch ac Arlwyo sy'n agored i staff, myfyrwyr a'r gymuned leol

Mae'r campws yn hyrwyddo amgylchedd cefnogol a gofalgar gyda staff arbenigol wrth law i gynnig cyngor, cyfarwyddyd a chymorth.   Mae profiad y dysgwr yn flaenllaw yn ein cymuned ddysgu.    Dewch draw i ymweld â'n campws a chewch groeso cynnes ar unrhyw adeg.

Coleg Ceredigion
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BP

01970 639700

Campws Aberteifi Coleg Ceredigion yw prif leoliad y Gyfadran Sgiliau a Thechnoleg ac mae wedi'i leoli ger canol y dref gyda mynediad hawdd i'r holl gyfleusterau lleol.   Mae gan yr holl ystafelloedd addysgu a TG sgriniau rhyngweithiol CTouch mawr yn ogystal ag ystod o gyfleusterau addysgu gydag adnoddau o safon diwydiant. 

Mae yna Ardal Ymlacio fodern lle gall dysgwyr gymdeithasu, ymlacio neu ailfywiogi rhwng gwersi yn ogystal ag Y Cantîn, sy'n gweini brecwast a chinio.  Hefyd, mae gan y campws Ganolfan Adnoddau Dysgu a Llyfrgell sydd wedi'i staffio'n llawn yn ogystal ag ardaloedd arbenigol i gefnogi addysg a hyfforddiant mewn nifer o Feysydd Cwricwlwm. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Gweithdai Gwaith Saer ac Asiedydd, Bricwaith ac amlsgiliau a adeiladwyd yn bwrpasol, sydd wedi eu cyfarparu’n llawn ag offer o safon diwydiant ar gyfer Sgiliau Adeiladu.
  • Gweithdai Dylunio ac Adfer Dodrefn a Gweithdy Cerbydau Modur a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer Sgiliau Gweithgynhyrchu a Sgiliau Peirianneg Fodurol
  • Labordy cyfrifiaduron, Stiwdios Cyfrifiadura ac Animeiddio wedi eu cyfarparu’n llawn ar gyfer TG
  • Bwyty hyfforddi Maes y Parc ar gyfer Lletygarwch ac Arlwyo sy'n agored i staff, myfyrwyr a'r gymuned leol
  • Salon Academi Steil ar gyfer Gwallt a Harddwch sy'n agored i staff, myfyrwyr a'r gymuned leol

Mae'r campws yn hyrwyddo amgylchedd cefnogol a gofalgar gyda staff arbenigol wrth law i gynnig cyngor, cyfarwyddyd a chymorth.   Mae profiad y dysgwr yn flaenllaw yn ein cymuned ddysgu.   Dewch draw i ymweld â'n campws a chewch groeso cynnes ar unrhyw adeg.

Coleg Ceredigion
Maes y Parc
Aberteifi
Ceredigion
SA43 1AB

01239 612032

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB