Rydym yn ymfalchïo yn y lefel o gymorth sydd ar gael. Mae gennym dîm o fentoriaid a chynghorwyr hyfforddedig i roi cefnogaeth gyfrinachol 1:1 ar ystod o faterion lles.
Yn ogystal, rydym yn darparu cymorth dysgu i bobl ag Anghenion Ychwanegol. Mae’r cymorth hwn yn cynnwys addysgu arbenigol 1:1, darparu consesiynau arholiad, cymorth gan gynorthwywyr cymorth dysgu yn yr ystafell ddosbarth a help gyda chyfarpar a meddalwedd arbenigol.
Os yw dysgwyr wedi cael cymorth yn yr ysgol, mae'n fwy tebygol y gallwn ni ddarparu hyn yn ystod eu hamser yn y coleg. Gallai’r cymorth hwn gynnwys:
- Cymorth 1:1 neu gymorth grŵp gyda Chynorthwy-ydd Cymorth Dysgu yn y dosbarth
- Amser ychwanegol ar gyfer arholiadau/asesiadau allanol
- Cymorth ac arweiniad gyda Dyslecsia
- Cefnogaeth mentora a chynghori
- Lle tawel yn ystod y dydd
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych angen arweiniad pellach, cysylltwch â’n Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dysgu a Lles, julia.green@colegsirgar.ac.uk