Dwyieithrwydd.

Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i ddatblygu eu darpariaeth a’u hethos dwyieithog. Rydym yn hyrwyddo dwyieithrwydd ac yn annog ein holl fyfyrwyr i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg. Mae’r Gymraeg yn unigryw i Gymru ac yn bwysig iawn i ni fel coleg.

Gall pawb sy’n byw yng Nghymru fod yn falch o’r iaith, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n ei siarad hi eu hunain. Mae’r iaith yn perthyn i bawb sy’n byw yma ac mae buddion addysgol, cyflogadwyedd a chymdeithasol o fod yn gallu siarad dwy iaith.

Gallwch fod yn rhan o ddau ddiwylliant a mwynhau’r amrywiaeth o idiomau, dywediadau, hanes, barddoniaeth, llenyddiaeth, cerddoriaeth a thraddodiadau. Mae siarad Cymraeg, hyd yn oed ar lefel sylfaenol iawn, yn wych ar gyfer eich CV a gallai agor drysau i bob math o gyfleoedd i chi yn y dyfodol.

Bellach mae llawer o swyddi yng Nghymru yn gofyn am y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg hefyd, felly gallai astudio’n ddwyieithog roi mantais i chi pan fyddwch chi’n chwilio am waith. Mae eich sgiliau dwyieithog yn werthfawr iawn a dylech fanteisio ar y cymorth y gallwn ei roi i chi yn y coleg i ddatblygu’r sgiliau hynny ymhellach. Gallwn ni eich helpu i wella eich cyfleoedd gyrfaol trwy ganiatáu i chi astudio ystod o gyrsiau’n ddwyieithog, yn enwedig ym meysydd pwnc blaenoriaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Astudiaethau Ar Dir a Chwaraeon.

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n ein cefnogi i greu cyfleoedd hyfforddi a dysgu yn Gymraeg i ysbrydoli dysgwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd ganddynt. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu buddsoddiad a’u cefnogaeth. 

Cyfleoedd

Mae llawer o gyfleoedd i ddefnyddio a dathlu’r Gymraeg ar draws y Coleg, er enghraifft:

  • Lleoliadau profiad gwaith a phrentisiaethau yn Gymraeg
  • Cyfarwyddyd ar ble i ddod o hyd i gyrsiau dysgu Cymraeg lleol
  • Astudio rhan o’ch cwrs yn Gymraeg neu’n ddwyieithog
  • Mynychu sesiynau sgiliau ‘Cymraeg ar gyfer y Gweithle’
  • Ailsefyll eich TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf
  • Gweithgareddau cyfoethogi Cymraeg fel siaradwyr ymweliadol, gemau, ymweliadau
  • Cyfleoedd dilyniant i gyrsiau cyfrwng Cymraeg Addysg Uwch
  • Digwyddiadau dwyieithog trawsgolegol i ddathlu ein treftadaeth Gymreig a’n diwrnodau gwyliau e.e. Diwrnod Shwmae, Dydd Santes Dwynwen, Dydd Miwsig Cymru, Dydd Gŵyl Dewi, Rygbi'r Chwe Gwlad, yr Eisteddfod Genedlaethol, cystadlaethau a digwyddiadau chwaraeon Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru.
Swyddogion y Gymraeg

Mae ein dau Swyddog y Gymraeg yn gweithio i gefnogi ein dysgwyr a staff ar draws yr holl gampysau:

Menna Jones – Swyddog y Gymraeg (De) gyda chyfrifoldeb am ein campysau’r Graig, Rhydaman a’r Gelli Aur menna.Jones@colegsirgar.ac.uk

Heledd Dafis – Swyddog y Gymraeg (Gogledd) gyda chyfrifoldeb am ein campysau Aberystwyth, Aberteifi, Pibwrlwyd a Ffynnon Job heledd.dafis@ceredigion.ac.uk

Llysgenhadon y Coleg Cymraeg

Bob blwyddyn rydyn ni’n eithriadol o falch o’n Llysgenhadon Coleg Cymraeg sy’n ein helpu ni i hyrwyddo a threfnu cyfleoedd Iaith Gymraeg ymhlith ein dysgwyr ar draws y coleg. 

Aimee Davies – Gofal Plant Lefel 3 – Campws Rhydaman

Cara-Fflur Davies – Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 – Campws Aberystwyth

Ffion Evans – Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 – Campws y Graig

Francesca Thomas – Safon Uwch – Campws y Graig

Ioan Poole – Cyfryngau Creadigol Lefel 3 – Campws y Graig

Jac Howard-Davies – Coginio Proffesiynol Lefel 3 – Campws Pibwrlwyd

Mared Davies – Rheolaeth Anifeiliaid Lefel 3 – Campws Pibwrlwyd

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB