Gwneud cais ar-lein am gwrs

1. I wneud cais am gwrs, bydd angen i chi ddod o hyd i’r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo, ar wefan y coleg, a chlicio ar y botwm Gwneud Cais.


2. Os nad ydych chi eisoes wedi cofrestru gyda’r coleg, bydd angen i chi Greu cyfrif, a fydd yn caniatáu i chi olrhain eich cais.

  • Defnyddiwch gyfeiriad e-bost personol, ac nid cyfeiriad e-bost ysgol. Pan fyddwch yn creu eich cyfrif, byddwch yn creu eich cwestiwn atgoffa cyfrinair eich hun, ac ateb, rhag ofn y byddwch yn anghofio eich cyfrinair yn y dyfodol.
  • Os oes gennych chi gyfrif Prospect eisoes, ond ni roddwyd mewngofnodiad coleg i chi eto, yna gallwch chi ddefnyddio mewngofnodiad eich cyfrif Prospect (eich e-bost personol fel arfer) a’ch cyfrinair i fewngofnodi. 
  • Os ydych chi’n fyfyriwr yn y coleg ar hyn o bryd, a rhoddwyd manylion eich cyfrif coleg i chi, ac mae gennych gyfrif Google coleg actif, byddwch yn gallu mewngofnodi i Prospect (system ymgeisio’r coleg), gan ddefnyddio eich e-bost coleg, a chyfrinair eich e-bost coleg, gan ddefnyddio’r ddolen “Cliciwch yma i fewngofnodi gyda’ch cyfrif Google coleg” ar dudalen fewngofnodi Prospect.

3. Ar sgriniau ymgeisio’r coleg, rhaid cwblhau unrhyw feysydd sydd wedi’u nodi â seren (*). Gallwch gadw eich cynnydd gyda chais, a mynd yn ôl ato yn nes ymlaen, os dymunwch. Fodd bynnag, dylech nodi bod rhai o’n cyrsiau’n gallu llenwi’n gyflym.

Bydd y tudalennau a welwch yn y cais ar-lein, yn dibynnu ar y math o gwrs rydych yn gwneud cais amdano, ond fel arfer byddwch yn gweld y canlynol: 

  • Manylion Personol - Manylion Personol, Iaith Gymraeg, Cyswllt mewn Argyfwng, Cyfeiriad Gohebiaeth
  • Manylion Pellach - Cyfleoedd Cyfartal, Cymorth a Chefnogaeth, Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cyflyrau Meddygol, Gwneud Cais am Gludiant
  • Cymwysterau
  • Diogelu Data
  • Adolygu

4. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, fe welwch neges gadarnhau, a dylech dderbyn e-bost cadarnhau. 

Os oes cyfweliadau ar gael i chi eu bwcio, gofynnir i chi ddewis un.  Os nad oes cyfweliadau ar gael bryd hynny, anfonir e-bost atoch yn eich gwahodd i drefnu cyfweliad, wrth i slotiau cyfweliadau ddod ar gael, ar gyfer eich cwrs.

Yna byddwch hefyd yn cael mynediad i’r holl dudalennau unigol yn Prospect:

  • Fy Nhudalen Hafan - Cynnydd y Cais, bwcio cyfweliadau, Dewisiadau Pynciau UG (os yn berthnasol), Derbyn Cynigion ac ati
  • Manylion Personol - Manylion cyswllt, manylion cyfeiriad, Dewisiadau o ran yr Iaith Gymraeg, Cyfle Cyfartal, Cymorth sydd ei angen mewn cyfweliad, cwestiwn gwneud cais am gludiant
  • Fy Ngheisiadau - Rhestr o’ch ceisiadau cyfredol
  • Fy Nghynigion - Rhestr o unrhyw gynigion rydych wedi'u derbyn (os oes rhai yn bodoli)
  • Fy Nghymwysterau - y cymwysterau rydych wedi'u rhoi, yn ystod y broses ymgeisio
  • Fy Nhystiolaeth - Unrhyw ddogfennau rydych wedi'u llwytho i fyny  
  • Fy Nghyfathrebiadau - Manylion sylfaenol unrhyw e-byst a gynhyrchwyd gan y system rydych wedi’u derbyn.
  • Fy Niogelu Data - Unrhyw drefniadau diogelu data neu gytundebau dysgwyr a nodir gan y coleg
  • Fy Anghenion Cymorth - Manylion unrhyw wybodaeth ADY rydych wedi’i rhoi
  • Fy Manylion Meddygol - Manylion unrhyw gyflyrau meddygol / iechyd / iechyd meddwl rydych wedi’u rhoi

Os oes cyfweliadau ar gael i chi eu bwcio, gofynnir i chi ddewis un ar ddiwedd eich cais.  Os nad oes cyfweliadau ar gael bryd hynny, anfonir e-bost atoch yn eich gwahodd i drefnu cyfweliad, wrth i slotiau cyfweliadau ddod ar gael, ar gyfer eich cwrs.

Bydd y coleg yn cysylltu â chi trwy e-bost, galwadau ffôn a negeseuon testun, felly sicrhewch fod eich manylion cyswllt yn gywir, ac yn gyfredol.


Beth yw fy Enw Mewngofnodi Prospect?

Dangosir eich mewngofnodiad Prospect ar yr holl gyfathrebiadau a gewch gan y coleg.  Fel arfer, hwn fydd y cyfeiriad e-bost personol rydych wedi ei gofrestru gyda ni.   Os ydych yn ansicr o hyd, yna gallwch gysylltu â ni yma - admissions@ceredigion.ac.uk

Sut ydw i’n ailosod fy nghyfrinair Prospect?

Gallwch ailosod eich cyfrinair Prospect yma - https://gwneudcais.ceredigion.ac.uk/ResetPassword.

Dylech roi eich cyfeiriad e-bost personol, ac yna clicio ar cyflwyno.  Os deuir o hyd i’r e-bost personol rydych wedi’i roi, yna anfonir e-bost atoch gyda dolen i ailosod eich cyfrinair.  Os nad ydych yn derbyn yr e-bost, yna cysylltwch â ni yma - admissions@ceredigion.ac.uk.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB