Cludiant Myfyrwyr 2023 - 2024
Rhaid i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd gwneud cais am gludiant bob blwyddyn. Nid oes unrhyw gario ymlaen. Gwneir cais am docyn teithio bws coleg wrth gofrestru, nid oes ffurflen gais ar wahân. Os na chysylltwyd â chi ynglŷn â chofrestru, e-bostiwch derbyniadau@ceredigion.ac.uk i wirio statws eich cais am gwrs.
Os ydych yn fyfyriwr neu ymgeisydd addysg bellach llawn amser gallwch wneud cais am gludiant trwy eich cyfrif coleg https://gwneudcais.ceredigion.ac.uk/
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e bostiwch derbyniadau@ceredigion.ac.uk
Cynigir cludiant am ddim ar hyd prif lwybrau i fyfyrwyr sydd ar gyrsiau 16 awr neu fwy yr wythnos. Os ydych yn byw tu allan i Geredigion neu Sir Gaerfyrddin mae’n bosib gofynnir am gyfraniad o £100 tuag at gost y tocyn bws.
Pryd allaf ddefnyddio’r tocyn bws?
Gellir defnyddio’r tocyn bws ar y gwasanaeth a ddangosir ar y tocyn yn unig. Gellir defnyddio’r tocynnau hyd 9.00yb a rhwng 4.00yh – 6.00yh.
Beth os nad wyf yn byw yn agos at fan codi?
Os ydych rhwng 16 ac 18 oed ar 1af o Fedi, ac yn byw yng Ngheredigion ond mwy na 1.5 milltir o’r man codi agosaf, gallwch fod yn deilwng am dacsi. Gallwch wneud cais am dacsi ar yr un pryd a’ch cais am docyn bws.
Nodwch os gwelwch yn dda: Darperir tacsi os fydd 2 berson yn teithio o'r un ardal yn unig. Mi fydd yr Awdurdod Lleol yn cadarnhau os ydych yn deilwng am dacsi, ac os na ellir darparu tacsi, a byddwch yn gwneud eich ffordd eich hunan i gwrdd â’r bws, mae’n bosib gallwch hawlio’r costau petrol yn ôl o’r Awdurdod Lleol
Cludiant Anghenion Ychwanegol - Cludiant Anghenion Ychwanegol - Myfyrwyr rhwng 16-18 oed
Gall dysgwyr â chyflyrau meddygol, anableddau neu anawsterau dysgu fod yn gymwys i gael darpariaeth tacsi neu fws, yn amodol ar dystiolaeth ategol berthnasol. Ystyrir y ceisiadau hyn yn unigol.
Y cyswllt ar gyfer yr Awdurdod Lleol i drafod y pwyntiau uchod yw:
UCTG Cyngor Sir Ceredigion
Canolfan Rheidol,
Rhodfa Padarn,
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion SY23 3UE
Tel: 01545 570881
clic@ceredigion.gov.uk