Mae Ymgynghorwyr Gyrfaoedd ar gael ar bob campws.
Beth bynnag yw eich oedran, yn astudio'n llawn amser neu'n rhan-amser, gallwch gael mynediad i gyfarwyddyd gyrfaol yn un o ganolfannau Gyrfa Cymru. Yn ychwanegol, bydd pob dysgwr llawn amser yn derbyn rhaglen gynlluniedig o addysg a chyfarwyddyd gyrfaol trwy diwtorialau, a fydd yn ategu canlyniadau dysgu cydnabyddedig.
Gall Ymgynghorwyr Gyrfaoedd o Gyrfa Cymru roi cymorth i chi ar-lein yn www.careerswales.com neu dros y ffôn. Gallant eich helpu i ddewis gyrfa, addysg uwch, a chael mynediad i wybodaeth yrfaol a galwedigaethol gyfredol, chwilio am swyddi a’r swyddi gwag diweddaraf.
Os oes angen help Gyrfaoedd arnoch, cysylltwch â Gyrfa Cymru, neu gofynnwch i'ch tiwtor neu i staff Gwasanaethau Dysgwyr.
Efallai byddwch am ymweld â’n Gŵyl Yrfaoedd Ceredigion flynyddol yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Yma rydym yn ymuno â Gyrfa Cymru i ddod â rhai o gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant mwyaf Gorllewin Cymru at ei gilydd.
Gyda mwy na 80 o arddangoswyr o bob cwr o Gymru yn mynychu’r digwyddiad undydd, cewch gyfle i gwrdd â chyflogwyr wyneb yn wyneb, profi eich sgiliau ar stondinau Troi-eich-Llaw, a dod i wybod mwy am swydd eich breuddwydion. Hefyd gallwch chi ddod i wybod mwy am yrfaoedd a phrentisiaethau gyda chwmnïau megis, Heddlu Dyfed Powys, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Prifysgol Aberystwyth, Cyngor Sir Ceredigion, a llawer mwy.