Ynglŷn ag Undeb y Myfyrwyr.

Unwaith y bydd Undeb Myfyrwyr Coleg Ceredigion wedi’i sefydlu, fel myfyriwr yng Ngholeg Ceredigion, byddwch yn awtomatig yn aelod. Mae hyn yn golygu eich bod yn gallu manteisio’n llawn ar bopeth sydd gennym i'w gynnig, gan gynnwys digwyddiadau yn y coleg, cynrychiolaeth myfyrwyr a gwybodaeth am fywyd myfyriwr.

Ein gwaith ni yw gwneud yn siŵr eich bod yn cael profiad gwych yn ystod eich amser yng Ngholeg Ceredigion.  Er mwyn eich cynrychioli'n iawn fel myfyrwyr yng Ngholeg Ceredigion mae'n bwysig ein bod yn cael ein cyfarwyddo gan EICH syniadau a'ch profiadau CHI. Rhowch wybod i ni beth yw eich barn drwy gysylltu â’r Swyddogion Lles Myfyrwyr ar bob campws.

Mae yna ddatblygiadau ar y gweill ar gyfer Undeb Myfyrwyr Coleg Ceredigion ac mae swyddi ar gael o hyd. Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’r swyddi canlynol, cysylltwch â’r swyddogion Lles Myfyrwyr am sgwrs bellach.

  • Llywydd
    Is-lywydd
  • Is-lywydd
  • Swyddog Menywod
  • Swyddog LGBT+
  • Swyddog y Gymraeg
  • Swyddog Myfyrwyr Anabl

Cardiau NUS Extra/Totum

Mae gan bob myfyriwr yr hawl i brynu Cerdyn NUS Extra, a fydd yn costio £12 ac sy'n gallu arbed arian i chi gyda chostau teithio, dillad, adloniant a llawer mwy. Am ragor o wybodaeth dylech gysylltu â’r Swyddog Lles Myfyrwyr ar eich campws neu ewch i weld: https://www.nus.org.uk/en/nus-extra/about-the-card/

Clybiau a Chymdeithasau

Mae yna nifer o grwpiau dan arweiniad myfyrwyr sy'n ymgynnull i rannu eu diddordebau cyffredin ac mae'r rhain yn ffyrdd da o gwrdd â phobl newydd. Bydd posteri'n cael eu rhoi o gwmpas y campysau i hysbysebu beth sy'n digwydd a ble. Os nad ydych yn gweld clwb sydd o ddiddordeb i chi beth am ddechrau un eich hun?

Gallwch chi ddechrau clwb neu gymdeithas ar gyfer bron unrhyw beth, yna gallwch chi ddenu aelodau a chefnogaeth Undeb y Myfyrwyr a fydd efallai yn gallu eich helpu gyda pheth arian i gynnal eich gweithgareddau. Bydd Swyddogion Lles Myfyrwyr yn gallu eich helpu i ddod i gysylltiad â'r bobl iawn i roi pethau ar waith, felly os oes gennych ambell syniad gwych, cofiwch eu rhannu nhw. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB