Cymorth Pontio

Mae cymorth gennym ar waith i’ch helpu i ddygymod â newid i le addysg newydd.

Mae dewis cwrs newydd neu le newydd i astudio yn gallu bod yn gyffrous ond yn heriol. Rydyn ni yma i’ch cefnogi drwy’r broses. Rydym yn gweithio’n agos gyda chi, rhieni/gwarcheidwaid, ysgolion ac asiantaethau allanol i helpu sicrhau bod eich pontio’n rhedeg yn ddiffwdan. Mae’n bwysig bod eich cymorth yn cael ei gynllunio ymlaen llaw er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu bodloni eich anghenion.

Byddwn ni’n:

  • Gadael i’ch Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALNCo) wybod yr hoffech chi i ni fod yn bresennol yn eich adolygiad ysgol.
  • Cwrdd â chi i drafod eich Cynllun Datblygu Unigol, y ffordd y mae gwell gennych chi gael eich cefnogi ac i ddiweddaru eich proffil un dudalen er mwyn hysbysu staff ynghylch sut orau i’ch cefnogi yn y coleg 
  • Cysylltu â’ch rhieni neu ofalwyr, Gyrfa Cymru ac asiantaethau eraill i gasglu a rhannu gwybodaeth ar sut orau i’ch cefnogi. 
  • Cyfathrebu â staff sydd mewn cysylltiad â chi fel eu bod yn gwybod sut orau i’ch cefnogi i gyflawni eich uchelgeisiau a datblygu annibyniaeth. 

Mae’n bwysig i ni eich bod yn teimlo’n gyfforddus pan fyddwch yn dechrau eich cwrs coleg. Gallwn ni gynnig:

  • Ymweliad wedi’i bersonoli â’ch campws dewisol fel eich bod yn ymgyfarwyddo ag amgylchedd newydd ac yn cwrdd ag aelodau staff allweddol.
  • Gweithgareddau haf i’ch cyflwyno i staff a myfyrwyr eraill. 
  • Cynllunio eich cludiant i’r coleg.
  • Cefnogaeth gyda’r broses gofrestru.
  • Cefnogaeth gyda setlo i mewn i fywyd coleg megis cwrdd â chi’n rheolaidd, gan sicrhau eich bod yn gallu cael mynediad i gymorth a’ch bod yn gwneud cynnydd.  

Gellir gofyn am gymorth pontio yn eich cyfweliad neu drwy gysylltu â’n Swyddog Pontio. (jayne.hicks@colegsirgar.ac.uk).

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi unrhyw dystiolaeth feddygol neu gymorth dysgu i ni fydd yn ein helpu i’ch cefnogi yn y coleg.  Yna gallwn ni wneud yn siŵr bod eich cymorth yn cael ei gynllunio ymlaen llaw ac, os yn ofynnol, bod profiad pontio priodol yn cael ei drefnu ar eich cyfer.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB