Sut Rydyn Ni’n Eich Cefnogi

Ysbrydoli Dysgwyr, Cyflawni Potensial ac Ennill Rhagoriaeth Drwy Ddiwylliant o Gynwysoldeb

Mae gan Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion dîm cymorth ymroddedig i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, anableddau ac anghenion meddygol. 

Mae staff Cymorth Dysgu ar gael ar bob campws i gefnogi dysgwyr gyda’u hastudiaethau.  Rydyn ni’n croesawu ac yn dathlu niwroamrywiaeth ac, fel coleg, rydyn ni’n croesawu dysgwyr â ffyrdd amrywiol o ddysgu i’n hamgylchedd dysgu cynhwysol. Mae ein tîm yn gweithio’n agos gyda staff cwricwlwm i sicrhau bod addysgu a dysgu yn hygyrch i bob dysgwr.  Mae’r holl gymorth yn berson-ganolog ac wedi’i gynllunio er mwyn meithrin eich annibyniaeth yn amgylchedd y coleg a thu hwnt.

Addysg Bellach

Mae llawer o ddysgwyr yn ein coleg yn gwneud cynnydd da gyda darpariaeth gyffredinol. Golyga hyn fod yna ystod o gefnogaeth ar gael i bawb.

Am wybodaeth ar lefel Mynediad (Sgiliau Byw’n Annibynnol) cliciwch yma.

Pa beth bynnag fo’ch angen dysgu ychwanegol, byddwn ni’n eich cefnogi i feithrin eich sgiliau a’ch annibyniaeth tra eich bod yn y coleg.

Ein nod yw eich bod yn dysgu gwneud mwy o bethau i chi’ch hun a gwneud eich penderfyniadau eich hun, fydd yn ategu eich cynnydd yn y coleg a thu hwnt.

Addysg Uwch

Sut ydw i’n cael mynediad i gymorth?

Mae cymorth ar gael drwy’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA).  Mae’r DSA yn gynllun a ariennir gan y llywodraeth, nad oes angen prawf modd ar ei gyfer a all dalu am gymorth y gallai fod ei angen arnoch.  Mae hyn i sicrhau nad ydych dan anfantais yn ystod eich astudiaethau.  

Mae’r cynllun DSA yn gofyn am anfon tystiolaeth ymlaen at eich corff cyllido (e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru) gyda’ch cais DSA.  Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr fodloni’r diffiniad o ‘anabledd’ fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.  Gall ein tîm eich cynorthwyo gyda’ch cais.

Pa gymorth sydd ar gael?

Os ydych yn gymwys, gall cymorth person-ganolog fod ar ffurf:

  • Addysgu arbenigol un i un i gynorthwyo gyda threfnu a chynllunio, sgiliau ysgrifennu aseiniadau, gan un o'n darlithwyr arbenigol 
  • Mynediad i Gynorthwy-ydd Astudio i’ch cefnogi chi gyda threfnu, rheoli amser, ymchwil, ac ati
  • Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain
  • Cyfarpar arbenigol
  • Technoleg gynorthwyol gan gynnwys meddalwedd
  • Addasiadau arholiad fel amser ychwanegol

Ar ôl i'ch cais DSA gael ei gymeradwyo, gofynnir i chi fynychu Asesiad o Anghenion er mwyn nodi gofynion penodol eich cymorth.  Caiff hwn ei gynnal mewn Canolfan Fynediad gymeradwy.  Gallwn eich cefnogi drwy’r broses hon.  

Ar ôl i chi dderbyn cadarnhad gan eich corff cyllido bod cefnogaeth wedi'i chymeradwyo (llythyr DSA2), gallwn drefnu eich cefnogaeth bwrpasol.

Pwy sy’n gymwys i dderbyn cymorth?

Efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am DSA os oes gennych angen dysgu ychwanegol (fel Anhawster Dysgu Penodol), anabledd neu gyflwr meddygol.  Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth fel adroddiad Asesiad Diagnostig gan seicolegydd neu aseswr cymwysedig, neu lythyr gan weithiwr proffesiynol meddygol.  Gan fod gofynion yn newid, mae’n ddefnyddiol gwirio gwefan y corff cyllido (e.e. SFW, SFE) i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Pryd ydw i’n gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl?

Gallwch wneud cais cyn i chi ddechrau’r cwrs, neu os ydych yn ansicr, gallwn eich cefnogi drwy’r broses. 

Asesiadau Diagnostig

Ar ôl i chi gofrestru ar eich cwrs, efallai y byddwch yn gymwys i gael asesiad diagnostig i benderfynu a oes gennych anhawster dysgu penodol.  Gellir defnyddio'r adroddiad sy'n deillio o hyn fel tystiolaeth i wneud cais am DSA, yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiad.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB