Bwyty Maes y Parc yw bwyty hyfforddi proffesiynol campws Aberteifi lle rydym yn ymfalchïo mewn creu amgylchedd cynnes a chroesawgar ar gyfer ein gwesteion o’r gymuned. Mae’r bwyty yn helpu myfyrwyr i ddatblygu ystod o sgiliau cyflogadwyedd, sy’n eu paratoi ar gyfer y byd gwaith. Cynigia’r bwyty ystod amrywiol o fwydlenni i'r cyhoedd dros y flwyddyn academaidd.