Cefnogi Partneriaethau Busnes.

Gydag enw da am ein gwaith gyda busnes, rydym yn darparu ystod o wasanaethau arbenigol i gefnogi eich anghenion busnes. Gan weithio gyda chyflogwyr, mae gennym hanes da sylweddol o gyflwyno hyfforddiant arloesol a chefnogaeth mewn cydweithrediad a diwydiant preifat a'r sector cyhoeddus.

 
Cefnogi Partneriaethau Busnes

O hyfforddiant gydag achrediad proffesiynol a chyrsiau hyfforddi pwrpasol i gyngor a chefnoga­eth busnes, rydym yn gallu cefnogi datblygiad sgiliau yn eich sefydliad er mwyn helpu eich pobl a'ch busnes i ffynnu.

Rydym yn cynnig cyrsiau a hyfforddiant mewn ystod eang o feysydd pwnc a gan ein bod wedi ein lleoli yng nghanol De Orllewin Cymru, rydym mewn sefyllfa strategol i allu cynnig cefnogaeth i'r sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector ar draws y rhanbarth a thu hwnt.

CYMORTH I FUSNESAU:

CYNLLUN PUM CAM I HELPU

EICH BUSNES I DYFU!

Datblygu'r Gweithlu ar Gyfer Eich Sefydliad

Mae datblygu a gwella sgiliau eich gweithlu yn all­weddol i dwf busnes.

Rydym mewn sefyllfa berffaith i gyflwyno rhaglenni hyfforddiant i staff o bob gallu, gan gynnig i'ch busnes yr enillion gorau posibl ar fuddsoddiad.

Rydym yn gallu darparu dadansoddiad anghenion hyfforddiant yn rhad ac am ddim i'ch helpu i ddif­finio eich gofynion hyfforddiant er mwyn datblygu'r strategaeth hyfforddiant sy'n iawn ar gyfer eich gweithwyr a'ch busnes chi.

Cyllid a Chymorth

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, mae yna nifer o fentrau rydym yn gallu rhoi cyngor yn eu cylch.

Ydych Chi am Wybod Mwy?

Cysylltwch a ni heddiw i wybod mwy am sut gallwn ni gefnogi eich busnes.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB