Cynigir y cymhwyster hwn fel cwrs lefel 3 llawn amser sy’n gyfwerth â safon ‘Safon Uwch’ ar gyfer myfyrwyr dros 16 oed. Bydd y cwrs yn darparu sgiliau ymarferol technegol arbennig a gwybodaeth i chi i weithio yn y Sector Gofal Anifeiliaid naill ai mewn capasiti ymarferol neu o fewn y diwydiant ehangach.
Mae’r cwrs dwy flynedd yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau sy’n ofynnol i chi eu cael gan gyflogwyr yn y diwydiant rheolaeth anifeiliaid ac amgylcheddol ac maent yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel gradd yn y pynciau yma neu bynciau cysylltiedig.
Ar ddiwedd blwyddyn un byddwch yn cwblhau’r cymhwyster Diploma Technegol Uwch Lefel Tri mewn Rheolaeth Anifeiliaid. Ar ddiwedd eich ail flwyddyn byddwch yn cwblhau’r Diploma Estynedig Technegol Uwch Lefel Tri mewn Rheolaeth Anifeiliaid.
Cipolwg
Llawn Amser
2 Flynedd
Campws Aberystwyth
Nodweddion y Rhaglen
Bydd dysgwyr yn cael cyfle i ddysgu sut i adeiladu ar eu sgiliau o ran gweithio gydag anifeiliaid. Bydd dysgwyr yn dysgu sut i weithio'n ddiogel o amgylch anifeiliaid a bod yn gyfrifol am gynllunio a chyflawni tasgau hwsmonaeth, iechyd, trafod a phorthi anifeiliaid. Byddwch hefyd yn dysgu am ymddygiad anifeiliaid, bridiau anifeiliaid, lles a sgiliau busnes.
Caiff dysgwyr y cyfle i ennill profiad ymarferol gydag ystod o anifeiliaid yn cynnwys cŵn, cwningod, moch cwta, ceffylau ac amrywiaeth o rywogaethau anifeiliaid egsotig. Mae'n ofynnol hefyd i fyfyrwyr ymgymryd â phrofiad gwaith (150 awr) sy'n orfodol ym mlwyddyn un y cwrs a'i nod yw datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd.
Cynnwys y Rhaglen
Gallai'r modiwlau gynnwys y canlynol:
Egwyddorion Iechyd a Diogelwch
Ymgymryd â, ac Adolygu Profiad Cysylltiedig â Gwaith yn y Diwydiannau Ar Dir
Iechyd a Hwsmonaeth Anifeiliaid
Porthi a Maetheg Anifeiliaid
Ymddygiad a Chyfathrebu Anifeiliaid
Systemau Biolegol Anifeiliaid
Lles a Bridio Anifeiliaid
Hyfforddi Anifeiliaid
Adferiad Anifeiliaid Bach
Gwasanaethau Perthynol i Anifeiliaid Anwes
Cadwraeth bywyd gwyllt ac ecoleg
Rheolaeth ac adfer bywyd gwyllt
Iechyd a hwsmonaeth anifeiliaid egsotig
Dylunio a rheolaeth siop anifeiliaid anwes
Nyrsio anifeiliaid
Hwsmonaeth a lles anifeiliaid fferm
Rheolaeth cyndai a chathdai
Ymgymryd â sgiliau ystâd
Rheolaeth busnes yn y sector ar dir
Ymgymryd â phrosiect arbenigol yn y sector ar dir
Dilyniant a Chyflogaeth
Asesir trwy -
Un aseiniad a osodir yn allanol, a'i gymedroli'n allanol (synopteg)
Un arholiad sy’n cael ei osod yn allanol, a’i farcio'n allanol, a'i sefyll o dan amodau arholiad (ar-lein)
Portffolio o dystiolaeth
Profiad Gwaith
Asesiadau unedau opsiynol yn ôl y gofyn
Iechyd a Diogelwch - arholiad theori
Bioleg - arholiad theori
Asesu'r Rhaglen
Asesir trwy -
Un aseiniad a osodir yn allanol, a'i gymedroli'n allanol (synopteg)
Un arholiad sy’n cael ei osod yn allanol, a’i farcio'n allanol, a'i sefyll o dan amodau arholiad (ar-lein)
Portffolio o dystiolaeth
Profiad Gwaith
Asesiadau unedau opsiynol yn ôl y gofyn
Iechyd a Diogelwch - arholiad theori
Bioleg - arholiad theori
Gofynion y Rhaglen
6 TGAU gradd C ac uwch.
Gradd teilyngdod neu ragoriaeth mewn Lefel 2 Gofal Anifeiliaid ynghyd â TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C ac yn uwch.
Costau Ychwanegol
Bydd gofyn i fyfyrwyr feddu ar gyfarpar digonol ar gyfer gweithio y tu allan ym mhob tywydd.
Bydd gofyn hefyd i fyfyrwyr feddu ar y cyfarpar arferol ar gyfer gweithio mewn amgylchedd ystafell ddosbarth.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol
Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557. Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB