Croeso i Addysg Gyffredinol ar gyfer Coleg Ceredigion.
Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol
Cynigia’r diploma gyfle i chi astudio ystod o unedau o wahanol sectorau yn y gyfres, gan gefnogi dilyniant i astudiaeth bellach. Byddwch yn ennill sylfaen dda yn y gwahanol feysydd pwnc rydym yn eu cynnig yn y coleg fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus ynghylch yr hyn rydych chi’n dymuno dilyn yn fanwl y flwyddyn ganlynol. Mae'r cwrs yn addas ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno ennill hyder mewn addysg bellach ac i'r rheiny sy'n ansicr ynghylch yr union faes pwnc y maen nhw am ei astudio'n llawn amser.
Cewch gyfle i weithio tuag at datblygu eich llythrennedd, rhifedd a'ch galluoedd digidol. Mae enghreifftiau o unedau yn y prif gymhwyster yn cynnwys:
Pedair uned graidd orfodol, gan gynnwys; bod yn drefnus, datblygu cynllun cynnydd personol, gweithio gydag eraill ac ymchwilio i bwnc - Bydd y rhain yn rhoi cyfle i chi ennill y sgiliau y bydd eu hangen arnoch i ddangos eich dealltwriaeth o'r sector.
Mae’r unedau sector yn cynnwys, celf, gwybodaeth technoleg, gofal plant, y cyfryngau ac arlwyo. Mae’r unedau sector yn rhoi'r cyfle i chi gymryd y sgiliau rydych wedi'u hadeiladu yn yr unedau craidd a gwir arddangos yr hyn rydych yn ei wybod a’i ddeall am eich sector.
Caiff cymhwysterau Mathemateg a Saesneg eu cynnwys yn y rhaglen.