ESOL - Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill

Cipolwg

  • Rhan Amser

  • Blwyddyn

  • Campws Aberystwyth

Cynigir rhaglenni ESOL i gynorthwyo unigolion â gallu cyfyngedig o ran Saesneg i gael y sgiliau iaith angenrheidiol ar gyfer cyfathrebu, addysg a chyflogaeth yn eu cymunedau newydd.

Mae dau ddosbarth prynhawn yn y coleg yn Aberystwyth ac un dosbarth nos ar-lein ar lefel ganolradd.

Cynnwys y Rhaglen

Rydyn ni'n ymarfer yr holl sgiliau iaith 

  • Siarad a gwrando 
  • Darllen ac ysgrifennu 
  • Rhai sgiliau rhifedd ac astudio hefyd. 
Dilyniant a Chyflogaeth

Rydym yn annog dysgwyr sydd eisiau gweithio tuag at

  • Ymuno â chyrsiau eraill yn y coleg neu'r brifysgol  
  •  Dod o hyd i swydd. 

Efallai yr hoffech wella lefel eich Saesneg am resymau teuluol, er enghraifft helpu plant neu wyrion gyda gwaith ysgol ac rydym yn hapus i helpu. 

Dull asesu

Rydym yn cynnig help i adeiladu portffolios o waith ar gyfer tystysgrifau ESOL Agored.

Rydyn ni'n hoffi ymateb i anghenion pob dysgwr - er enghraifft, i'ch helpu chi i baratoi ar gyfer arholiadau allanol fel:

  • Prawf Theori Gyrru 
  • Saesneg ar gyfer Dinasyddiaeth e.e. y Drindod, Caergrawnt
  • Prawf bywyd yn y DU
  • Prawf Saesneg Galwedigaethol 
Gofynion Mynediad
  • Mae dosbarthiadau yn agored i bob dysgwr o ddechreuwyr (A1) hyd at lefel ganolradd (B2).
  • Gallwch ymuno ar unrhyw adeg o'r flwyddyn rhwng mis Medi a mis Mehefin.  
  • Fe ddylech chi ymweld â'r coleg yn gyntaf i siarad am ddosbarthiadau i chi eich hun, mae croeso i chi ddod gyda rhywun rydych chi'n ei adnabod.
Costau Ychwanegol

Bydd angen i chi brynu gwerslyfr.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB