Diploma Rhagarweiniol BTEC mewn Astudiaethau Galwedigaethol

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 1 Flwyddyn

  • Campws Aberystwyth

Mae’r cwrs rhagarweiniol hwn yn cynnig blas ar gelf, technoleg gwybodaeth, gofal plant, y cyfryngau ac arlwyo gan ganiatáu i’r myfyriwr gael profiad o amrywiol bynciau gyda golwg ar ddatblygu ei ddiddordebau.  

Cynigia’r diploma gyfle i ddysgwyr astudio ystod o unedau o wahanol sectorau yn y gyfres, gan gefnogi dilyniant i astudio pellach.  Bydd dysgwyr yn ennill sylfaen dda yn y gwahanol feysydd pwnc rydym yn eu cynnig yn y coleg fel y gallant wneud penderfyniad gwybodus ynghylch yr hyn y maen nhw’n dymuno dilyn yn fanwl y flwyddyn ganlynol.  

Mae'r cwrs yn addas ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno ennill hyder mewn astudiaeth addysg bellach ac i'r rheiny sy'n ansicr ynghylch yr union faes pwnc y maen nhw am ei astudio'n llawn amser. 

Nodweddion y Rhaglen

Mae diploma rhagarweiniol lefel un Pearson BTEC mewn astudiaethau galwedigaethol wedi'i gynllunio o gwmpas sgiliau ymarferol a thasgau sy'n rhoi pwyslais ar ddysgwyr yn dangos yr hyn y gallant ei wneud yn hytrach na'r hyn y maent yn ei wybod mewn theori. Mae'r cymhwyster yn rhoi cyfle i ddysgwyr ennill a datblygu sgiliau generig, trosglwyddadwy a sector-benodol er mwyn cwblhau tasgau a dangos lefel o gyflawniad sy'n eu galluogi i symud ymlaen i ddysgu pellach.

Cynnwys y Rhaglen

Cewch gyfle i weithio tuag at wobr efydd Dug Caeredin, datblygu eich llythrennedd, rhifedd a'ch galluoedd digidol.    Mae enghreifftiau o unedau yn y prif gymhwyster yn cynnwys:

  • Pedair uned graidd orfodol, gan gynnwys Bod yn Drefnus, Datblygu Cynllun Dilyniant Personol, Gweithio gydag Eraill ac Ymchwilio i Bwnc - Byddant yn rhoi cyfle i ddysgwyr ennill y sgiliau y bydd eu hangen arnynt i arddangos eu dealltwriaeth o'r sector.
  • Mae unedau sector yn cynnwys Celf, Technoleg Gwybodaeth, Gofal Plant, y Cyfryngau ac Arlwyo. Mae’r unedau sector yn rhoi'r cyfle i ddysgwyr gymryd y sgiliau y maen nhw wedi'u hadeiladu yn yr unedau craidd ac arddangos eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth am eu sector. 
  • Caiff cymwysterau Mathemateg a Saesneg eu cynnwys yn y rhaglen.
Dilyniant a Chyflogaeth

Mae gan y cymhwyster hwn graidd o wybodaeth greiddiol, sgiliau a dealltwriaeth, ac ystod o opsiynau i adlewyrchu ehangder y llwybrau o fewn y sector hwn.  Gallai dilyniant dysgwyr gynnwys astudio pellach ar gwrs lefel un neu lefel dau, prentisiaeth neu gyflogaeth.  Bydd lefel y dilyniant yn dibynnu ar y radd gyffredinol a gyflawnir yn y cymhwyster.

Dull asesu

Asesir yr holl unedau'n fewnol, gan roi’r cyfle i ddysgwyr arddangos sgiliau a ddatblygwyd mewn senarios cymhwysol ac mae ystod o arddulliau asesu sy'n addas ar gyfer anghenion unigol.   Rhoddir gradd i bob uned i annog datblygiad sgiliau a pherfformiad.

Gofynion Mynediad

Mae mynediad yn ddibynnol ar gyfweliad dethol.  Mae mynediad i fyfyrwyr heb gymwysterau ffurfiol yn ôl disgresiwn y maes cwricwlwm gan ddibynnu ar dystiolaeth ysgrifenedig o astudio neu ddysgu blaenorol. 

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB