Diploma mewn Sgiliau Crefftau Adeiladu L1

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 1 Flwyddyn

  • Campws Aberteifi

Mae adeiladu yn ddiwydiant eang sy’n cynnwys cynllunio, dylunio, adeiladu a chynnal a chadw adeileddau a seilwaith. Mae’n cwmpasu ystod eang o weithgareddau ac arbenigeddau, gan gynnwys prosiectau adeiladu preswyl, masnachol, diwydiannol a sifil.

Mae’r rhaglen hon yn cyflwyno myfyrwyr i amrywiol sgiliau crefftau adeiladu (gweler opsiynau). Mae'n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cael gwaith a/neu ddilyn gyrfa mewn gwaith saer ac asiedydd neu mewn gosod brics ac aml-sgiliau.

Dewisiadau Opsiwn

  • Gosod brics ac Aml-Sgiliau
  • Gwaith Saer ac Asiedydd
Nodweddion y Rhaglen

Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr gan eu galluogi i symud ymlaen i’r diwydiant yn eu crefft ddewisol.   

Cafodd ei ddatblygu’n benodol i'w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae'r profion wedi’u seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn.  

Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.  Fel rhan o’r rhaglen bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau Sgiliau Hanfodol neu Sylfaenol. 

Darperir cyfleoedd yn ogystal i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg ac i ddatblygu'r iaith Gymraeg. 

Cynnwys y Rhaglen

Bydd pob dysgwr yn cwblhau uned orfodol Cyflwyniad i iechyd a diogelwch, ac amrywiaeth o unedau diwydiant cyffredinol ac unedau penodol i'r grefft.

Dilyniant a Chyflogaeth

Mae cyfleoedd ar gyfer dilyniant yn cynnwys prentisiaethau neu gymwysterau llawn amser eraill sy’n gysylltiedig ag adeiladu a fydd yn darparu datblygiad pellach a dealltwriaeth o grefftau yn y diwydiant adeiladu.  

Dull asesu

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy'n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.  

Gofynion Mynediad

TGAU graddau A*-G mewn Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg neu adeiladu’r amgylchedd adeiledig L1/2 CBAC.  Yn ogystal, bydd angen i ymgeiswyr fynychu cyfweliad llwyddiannus.  Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb hefyd yn y grefft ddewisol a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.  Mae croeso i fyfyrwyr hŷn wneud cais.

Costau Ychwanegol

Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu cyfarpar diogelu personol (PPE) eu hunain sy'n cynnwys bŵts diogelwch, sbectol diogelwch, het galed a dillad llachar. 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau ychwanegol os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB