Mae’r gwahanol bwyntiau mynediad i’r cymhwyster hwn yn golygu bod y llwybrau asesu’n amrywio.
Os yw’r dysgwr wedi cyflawni’r cymwysterau Sylfaen a Dilyniant, mae rhaid iddo gwblhau’n llwyddiannus:
- Un prawf aml-ddewis, wedi’i osod a’i farcio’n allanol.
- Un prosiect wedi’i osod gan y cyflogwr a’i asesu’n fewnol, yn cwmpasu ei faes crefft dewisol
- Un drafodaeth broffesiynol wedi’i marcio’n allanol
Os yw’r dysgwr wedi cyflawni’r cymhwyster sylfaen ond nid yw wedi cwblhau’r cymhwyster dilyniant, mae rhaid iddo gwblhau’n llwyddiannus:
- Dau brawf aml-ddewis, wedi’u gosod a’u marcio’n allanol.
- Un prosiect wedi’i osod gan y cyflogwr a’i asesu’n fewnol, yn cwmpasu ei faes crefft dewisol
- Un drafodaeth broffesiynol wedi’i marcio’n allanol
Os yw’r dysgwr yn dilyn y cymhwyster hwn fel rhan o’i brentisiaeth heb yn gyntaf gyflawni’r cymhwyster sylfaen neu gymhwyster dilyniant, mae rhaid iddo gwblhau’n llwyddiannus:
- Tri phrawf aml-ddewis, wedi’u gosod a’u marcio’n allanol.
- Un prosiect wedi’i osod yn allanol a’i farcio’n fewnol
- Un drafodaeth dan arweiniad wedi’i marcio’n fewnol
- Un prosiect wedi’i osod gan y cyflogwr a’i asesu’n fewnol, yn cwmpasu ei faes crefft dewisol
- Un drafodaeth broffesiynol wedi’i marcio’n allanol