Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr er mwyn eu galluogi i weithio yn niwydiant eu crefft ddewisol. Cafodd ei ddatblygu’n benodol i'w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae'r profion wedi’u seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn. Mae’r coleg yn darparu cyfleuster cynllun agored mawr gyda’r dechnoleg ddiweddaraf ynddo sy’n caniatáu ymgymryd ag ystod eang o dasgau cysylltiedig â’r diwydiant.
Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.