Diploma Lefel 2 A NVQ mewn Gwaith Brics

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae'r cymhwyster lefel dau hwn yn darparu fframwaith prentisiaeth sylfaen galwedigaethau trywel a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer llwybr dysgu seiliedig ar waith i gyflogaeth yn y diwydiant adeiladu.  Gan ddefnyddio cymwysterau sy'n cyfuno sgiliau ymarferol a gwybodaeth, mae gweithdai’r coleg yn darparu cyfleusterau rhagorol i adeiladu amrywiaeth o brosiectau sy’n efelychu bywyd go iawn ac sy'n berthnasol i'r diwydiant adeiladu.

Cipolwg

  Rhan-amser

  Blwyddyn

  Campws Aberteifi

Nodweddion y Rhaglen

Mae gan y coleg weithdy sydd wedi’i gyfarparu’n llawn lle byddwch yn datblygu eich sgiliau ymarferol drwy wneud tasgau adeiladu mewn amgylchedd realistig.  

Fel prentis, neilltuir ymgynghorydd hyfforddi CITB i chi a fydd yn cadw golwg arnoch ac yn rhoi cymorth i chi ar hyd eich taith, gan weithio’n agos gyda’ch cyflogwr a’ch tiwtoriaid yn y coleg. 

Bydd disgwyl i chi fynychu’r coleg un dydd yr wythnos ar gyfer gwybodaeth greiddiol, a bydd asesu hefyd yn digwydd yn y coleg neu yn eich gweithle yn rheolaidd. 

Mae'r cwrs hwn yn seiliedig ar waith ymarferol a theori.

Cynnwys y Rhaglen

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys:

  • Iechyd, diogelwch a lles yn y diwydiant adeiladu
  • Egwyddorion adeiladu adeiladau
  • Adeiladu waliau solet, pileri ynysig a chysylltiedig
  • Dehongli lluniadau gweithio i osod allan adeileddau gwaith maen 
  • Adeiladu waliau ceudod i ffurfio adeileddau gwaith maen

Dilyniant a Chyflogaeth

Byddai dilyniant o'r fframwaith hwn yn arwain i raglen brentisiaeth galwedigaethau trywel lefel tri. 

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus byddwch yn gallu marcio allan / gosod allan tŷ / estyniad, ffurfio sylfeini a slab ac yn y pen draw gallu adeiladu waliau ceudod hyd at blât wal wrth ffurfio agoriadau.

Asesu'r Rhaglen

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy'n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.  

Caiff unedau eu hasesu trwy bortffolio NVQ a/neu yn ymarferol yn y gweithle trwy arsylwi arferion gwaith.  

Yn ogystal bydd profion ysgrifenedig a phrofion ar-lein ar gyfer gwybodaeth theori’r cymwysterau NVQ a diploma yn cael eu sefyll yn y coleg.

Gofynion y Rhaglen

Mae angen diploma lefel un ar y coleg mewn galwedigaethau aml sgiliau neu drywel (gosod briciau) neu brofiad sylweddol o weithio ar safle yn y grefft hon yn ogystal â chyfweliad llwyddiannus. 

Dylech hefyd gael eich cyflogi yn y diwydiant adeiladu.

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB