Mae’r cwrs hwn yn datblygu sgiliau gosodiad cyntaf ac ail osodiad gwaith saer ynghyd â gweithgareddau cynnal a chadw a defnyddio llif gron.
Mae'n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cael gwaith a/neu ddilyn gyrfa mewn gwaith saer neu asiedydd.
Byddwch yn cwblhau amrywiaeth o dasgau cysylltiedig â gwaith saer sy'n cael eu gwneud yn y diwydiant ac yn defnyddio gwahanol offer llaw ac offer pŵer yn ddiogel.
Hefyd, bydd unedau egwyddorion adeiladu adeiladau, gwybodaeth a chyfathrebu yn rhoi cyflwyniad i chi i dechnoleg adeiladu.
Cipolwg
Rhan-amser
Blwyddyn
Campws Aberteifi
Nodweddion y Rhaglen
Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu eich sgiliau a gwybodaeth er mwyn eich galluogi i weithio yn y diwydiant yn eich crefft ddewisol.
Fe’i datblygwyd yn benodol i'w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae'r profion wedi eu seilio arnoch chi’ch hun yn dangos i ni’r hyn y gallwch wneud fel unigolyn.
Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol mewn cyfleusterau modern.
Mae gan yr adran ystod eang o offer pŵer Festool a gweithdy peiriannau gyda’r holl gyfarpar angenrheidiol gan gynnwys peiriant CNC.
Mae'r cwrs hwn yn caniatáu i chi ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cael gwaith a/neu ddilyn gyrfa mewn gwaith saer ar safle. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ymarfer y gweithgareddau hyn yn ein gweithdai pwrpasol, a chael eich addysgu gan ddarlithwyr profiadol, cymwys yn y diwydiant.
Mae’n cwmpasu’r sgiliau canlynol:
Lloriau gosodiad cyntaf
Tasgau toi, pob agwedd ar strwythur y to, ac eithrio'r gorchuddion
Fframiau gosodiad cyntaf, codi paredau a gosod grisiau
Gweithrediadau ail osodiad fel hongian drysau, gosod cloeon drws, sgyrtinau ac architrafau, ffitio ceginau, gwasanaethau amgáu
Gwaith cynnal a chadw gwaith saer, fel newid paen gwydr, newid darn pwdr o ffrâm drws
Gosod a gweithredu llif gron
Dilyniant a Chyflogaeth
Byddwch yn gallu symud ymlaen i raglen brentisiaeth yn amodol ar gyfweliad a bydd hyn yn darparu datblygiad pellach a dealltwriaeth o'r diwydiant adeiladu.
Asesu'r Rhaglen
Byddwch yn gallu symud ymlaen i raglen brentisiaeth yn amodol ar gyfweliad a bydd hyn yn darparu datblygiad pellach a dealltwriaeth o'r diwydiant adeiladu.
Gofynion y Rhaglen
Diploma Lefel 1 mewn gwaith Saer ac Asiedydd, a chyfweliad llwyddiannus. Dylech hefyd gael eich cyflogi yn y Diwydiant Adeiladu.
Costau Ychwanegol
Bydd angen pâr o fŵts diogelwch, pensil a thâp mesur ar fyfyrwyr.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.
Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557. Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB