Mae’r fframwaith lefel tri hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y proffesiwn adeiladu.
Mae prentisiaeth sylfaen yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith lefel dau lle mae'r dysgwr yn ennill wrth ddysgu.
Byddwch yn cael eich cyflogi fel prentis ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth. Disgwylir i chi gael eich rhyddhau am ddydd i fynychu’r coleg a gyda chymorth, dylech gyflawni fframwaith y brentisiaeth sylfaen lefel dau o fewn y raddfa amser gytunedig.
Mae'r cymhwyster hwn yn darparu fframwaith prentisiaeth sylfaen galwedigaethau trywel a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer llwybr dysgu seiliedig ar waith i gyflogaeth yn y diwydiant adeiladu, gan ddefnyddio cymwysterau sy'n cyfuno sgiliau ymarferol a gwybodaeth.
Mae'r gweithdai yn darparu cyfleusterau rhagorol ar gyfer adeiladu amrywiaeth o brosiectau sy’n efelychu bywyd go iawn ac sy'n berthnasol i'r diwydiant.
Cipolwg
Rhan-amser
Blwyddyn
Campws Aberteifi
Nodweddion y Rhaglen
Mae gan y coleg weithdy sydd wedi’i gyfarparu’n llawn lle byddwch yn datblygu eich sgiliau ymarferol drwy wneud tasgau adeiladu mewn amgylchedd realistig. Neilltuir ymgynghorydd hyfforddi CITB i chi a fydd yn cadw golwg arnoch ac yn rhoi cymorth i chi ar hyd eich taith ar y fframwaith hwn, gan weithio’n agos gyda’ch cyflogwr a’ch tiwtoriaid yn y coleg.
Bydd disgwyl i chi fynychu’r coleg un dydd yr wythnos ar gyfer gwybodaeth greiddiol, a bydd asesu hefyd yn digwydd yn y coleg neu’r gweithle yn rheolaidd. Mae'r cwrs hwn yn seiliedig ar waith ymarferol a theori.
Cydymffurfio ag iechyd, diogelwch a lles cyffredinol yn y gweithle
Codi adeileddau gwaith maen yn y gweithle
Cadarnhau’r dull gweithio galwedigaethol yn y gweithle
Codi adeileddau gwaith maen cymhleth yn y gweithle
Gosod allan adeileddau gwaith maen cymhleth yn y gweithle
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus byddwch yn gallu;
Gosod allan tai/estyniadau cymhleth
Ffurfio amrywiaeth o sylfeini a slabiau
Adeiladu waliau ceudod hyd at blât wal, gan gynnwys nodweddion bricwaith cymhleth wrth ffurfio agoriadau
Meddu ar y gallu i chwarae rôl fwy canolog yn y broses adeiladu tŷ
Byddai dilyniant o’r cwrs hwn i ddiploma lefel pedwar mewn goruchwylio safle sy’n cael ei gynnig yng Ngholeg Ceredigion.
Asesu'r Rhaglen
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy'n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol. Caiff unedau eu hasesu trwy bortffolio NVQ a/neu yn ymarferol yn y gweithle trwy arsylwi arferion gwaith. Yn ogystal bydd profion ysgrifenedig a phrofion ar-lein ar gyfer gwybodaeth theori’r cymwysterau NVQ a diploma yn cael eu sefyll yn y coleg.
Gofynion y Rhaglen
Cwblhau diploma lefel dau a NVQ mewn bricwaith yn llwyddiannus.
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol
Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557. Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB