Croeso i’r adran Gofal Anifeiliaid ar gampws Aberystwyth yng Ngheredigion. Rydym yn adran fach sydd ar hyn o bryd yn cynnig cyrsiau gofal anifeiliaid lefel 1 a 2.
Rydym yn falch o ddarparu amgylchedd cefnogol, gafaelgar a llawn hwyl i chi ddysgu am holl anghenion penodol a gofynion ystod o anifeiliaid. Gobeithiwn y gwnewch chi fwynhau eich taith gyda ni.