Bydd myfyrwyr yn ennill y wybodaeth a’r sgiliau trwy wersi theori a fydd yn eu galluogi i fynd i’r afael yn hyderus â heriau newydd gyda damcaniaethau a chysyniadau wedi eu hymgorffori. Bydd myfyrwyr yn ennill profiad o weithio mewn lleoliad ymarferol gan ddysgu sut i ofalu am amrywiaeth o anifeiliaid mewn dau sefydliad ymarferol gwahanol gan gynnwys Wild Animal Kingdom Y Borth ac iard Geffylau’r Brifysgol yn Lluest.
Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio gydag amrywiaeth o anifeiliaid gan gynnwys cwningod, moch cwta, cŵn, geifr a cheffylau. Mae'r coleg yn gweithio'n agos gyda busnesau lleol i ennill profiad gwerthfawr i fyfyrwyr a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen i gyflogaeth yn ddiweddarach. Mae yna hefyd nifer o ymweliadau addysgol bob blwyddyn sy'n galluogi myfyrwyr i gael cipolwg gwerthfawr ar wahanol gyfleoedd cyflogaeth.