Gall myfyrwyr gofrestru i astudio naill ai ym mis Medi, mis Ionawr neu fis Mai. Mae angen i fyfyrwyr gwblhau chwe modiwl i gyflawni’r cymhwyster.
Mae myfyrwyr rhan-amser yn gwneud un modiwl bob semester, am dri semester y flwyddyn dros ddwy flynedd. Mae myfyrwyr llawn amser yn gwneud dau fodiwl y semester am dri semester mewn blwyddyn.
Mae pob modiwl yn cynnwys deg sesiwn astudio ar wahân, pob
sesiwn yn ymgorffori gweithgareddau strwythuredig datblygiadol i gynorthwyo'r dysgwr o bell i ddatblygu'r wybodaeth greiddiol a'r sgiliau sydd eu hangen i gwblhau'r asesiadau.
Mae gan fyfyrwyr fynediad i gyfleusterau ar-lein helaeth gan gynnwys deunyddiau dysgu ar-lein a deunyddiau ymchwil llyfrgell Coleg Sir Gâr a Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.
Yn ogystal mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Moodle Amgylchedd Dysgu Rhithiol a Google Classrooms ategol y coleg. Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein.
Bydd myfyrwyr yn astudio modiwlau craidd gorfodol yn ymwneud ag ymchwil annibynnol mewn meysydd pwnc allweddol, yn ychwanegol at fodiwlau sy’n ymwneud ag astudiaeth fanwl o ymddygiad, etholeg, ffisioleg, iechyd a lles anifeiliaid.