Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (aat) - Tystysgrif Sylfaen mewn Cyfrifyddu (ar-lein)

Cipolwg

  • Rhan Amser

  • 1 Flwyddyn

  • Campws Aberystwyth

Mae gyrfa mewn cyfrifeg a chyllid yn cynnig ystod eang o gyfleoedd mewn amrywiol ddiwydiannau a sectorau. Mae cyfrifyddion a gweithwyr proffesiynol cyllid yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli gwybodaeth ariannol, dadansoddi data, a darparu arweiniad strategol i sefydliadau.

Mae’r cwrs hwn yn fan cychwyn delfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn cyfrifeg neu gyllid.  Pwrpas y cwrs yw cynnig sylfaen ar gyfer y wybodaeth a'r sgiliau cyfrifyddu craidd sydd eu hangen i symud ymlaen naill ai i gyflogaeth neu astudio pellach.

Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer pobl ifanc sydd newydd adael yr ysgol yn ogystal ag i oedolion sydd yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl seibiant neu ar gyfer unrhyw un sydd yn dymuno newid gyrfa. Mae’r cwrs yn agored i’r rheiny sydd yn gweithio a’r rheiny nad ydynt ar hyn o bryd mewn swydd.   Hefyd, gallai’r cymhwyster hwn helpu rhywun sydd eisoes yn gweithio mewn rôl gyllid lefel mynediad i symud ymlaen yn eu gyrfa trwy gynnig datblygiad a chydnabyddiaeth ffurfiol iddynt o’u sgiliau.

Nodweddion y Rhaglen

Bydd myfyriwr sydd yn cwblhau’r cymhwyster hwn yn datblygu sgiliau mewn cofnodi dwbl a bydd yn deall sut i ddefnyddio dyddlyfrau, cyfrifon rheoli a mantolen brawf. Hefyd, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd cyfrifyddu, sut i brosesu gwybodaeth ariannol yn unol â gweithdrefnau ac atodlenni’r cwmni, a sut i ddarparu gwybodaeth i gydweithwyr, cyflenwyr a/neu gwsmeriaid yn ôl y gofyn.

Bydd yr AAT yn gofyn i bob myfyriwr gofrestru gyda'r Corff Proffesiynol.  Gall cyfyngiadau aelodaeth fod yn berthnasol.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.aat.org.uk.

Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd y sgiliau cyfrifeg a ddatblygir trwy astudio'r cymhwyster hwn yn galluogi myfyriwr i chwilio am waith yn hyderus a/neu symud ymlaen i'r lefel ddysgu nesaf.

Gall y sgiliau cyllid, cyfrifeg, busnes a chyfathrebu a ddatblygir yn y Dystysgrif Sylfaen AAT mewn Cyfrifyddu arwain at gyflogaeth fel:

  • gweinyddwr cyfrifon
  • cynorthwyydd cyfrifon
  • clerc cyfrifon taladwy
  • clerc llyfr pryniadau/llyfr gwerthiant
  • technegydd cyfrifyddu dan hyfforddiant
  • cynorthwyydd cyllid dan hyfforddiant

Y wybodaeth gyfrifeg a chyllid a ddatblygir yn y cymhwyster hwn yw’r wybodaeth greiddiol sydd hefyd ei hangen ar gyfer y sgiliau cyfrifeg ac ariannol lefel uwch a ddatblygir yng Nghymwysterau Cyfrifyddu Uwch a Chyfrifyddu Proffesiynol AAT.

Cynnwys y Rhaglen

The Advanced Skills Baccalaureate Wales qualification is made up of three units referred to as Projects. 

The Global Community Project supports learners to develop and demonstrate the application of the Integral Skills whilst considering complex global issues and participating in local community activities (at least 15 hours) to promote citizenship in a sustainable world and Wales. 

The Future Destination Project supports learners to develop and demonstrate the application of Integral Skills whilst exploring future destination goals for life, employability, and citizenship in a sustainable world and Wales.

 The Individual Project enables learners to develop and demonstrate the application of the Integral Skills whilst planning, managing, and conducting an independent research project (extended written project or artifact).

Dull asesu

Mae'r asesiadau yn y cymhwyster hwn ar gyfrifiadur gyda chyfyngiad amser.

Bydd ystod o fathau o gwestiynau a fformatau yn cael eu cyflwyno i fyfyrwyr yn yr asesiad. Gall y rhain gynnwys cwestiynau amlddewis, cwestiynau llenwi bwlch rhifol, neu ddulliau cwestiynau sy'n dyblygu gweithgareddau’r gweithle, megis gwneud cofnodion mewn dyddlyfr.

Gofynion Mynediad

Nid yw AAT yn gosod unrhyw ragofynion ar gyfer astudio Tystysgrif Sylfaen AAT mewn Cyfrifyddu.  Fodd bynnag, er mwyn cael y cyfle gorau i lwyddo, rydym yn argymell bod myfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau gyda safon dda mewn Saesneg a Mathemateg.  Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gymwysterau ysgol neu goleg perthnasol eraill, gradd neu rywfaint o brofiad cyfrifyddu, mewn amgylchiadau penodol efallai bydd y rhain yn caniatáu i fyfyrwyr hawlio eithriadau.

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.

Mae’r ffi ran-amser ar gyfer y cwrs yn perthyn i fand M.  Mae'n bosibl y gallwch dalu am y cwrs hwn trwy gyllid ReACT neu PLA. Neu fel prentisiaeth sylfaen. Byddwch yn cael y cyfle i archwilio hyn gyda thiwtor y cwrs yn y cyfweliad.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB