Byddwch yn dysgu'r sgiliau hanfodol ar gyfer ystod eang o swyddi ar draws y sector gwasanaethau cyhoeddus, o'r gwasanaethau arfog a'r heddlu i rolau mewn awdurdodau lleol a llywodraeth ganolog. Bydd Coleg Ceredigion yn cydweithio'n agos gyda'r gwasanaethau brys i ysbrydoli a magu brwdfrydedd dysgwyr er mwyn iddynt ystyried gyrfa yn y sector.
Bydd pob dysgwr yn dilyn Llwybr Sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.