Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus

Cipolwg

  • Rhan Amser

  • 2 Flynedd

  • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant - Campws Caerfyrddin

Gall gyrfa yn y gwasanaethau cyhoeddus gynnig llwybr ystyrlon a gwerth chweil sy’n canolbwyntio ar wasanaethu’r gymuned a chael effaith gadarnhaol ar gymdeithas.

Rhaglen lefel tri dwy flynedd yw’r cwrs hwn sy'n anelu at roi’r cyfle i'r dysgwr ddatblygu ei wybodaeth, ei ddealltwriaeth a'i sgiliau mewn amrywiaeth o feysydd pwnc sy'n gysylltiedig â'r gwasanaethau cyhoeddus.  

Bydd yn rhoi golwg realistig i'r dysgwr ar y gwasanaethau cyhoeddus fel amgylchedd gwaith gwerth chweil. Mae’r rhaglen yn cynnwys pum uned orfodol ac unedau opsiynol a fydd yn eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o feysydd megis trosedd, y gyfraith a gofynion ffitrwydd yn ogystal ag unedau sy'n caniatáu cyfleoedd i gynnal ymchwil i yrfaoedd yn y gwasanaethau cyhoeddus sydd o ddiddordeb arbennig i chi. 

Nodweddion y Rhaglen

Mae’r cymhwyster hwn yn darparu dealltwriaeth fanwl i ddysgwyr o egwyddorion y sector gwasanaethau mewn lifrai ac yn caniatáu iddynt archwilio’r amrywiol lwybrau gwaith oddi mewn iddo. Bydd hefyd yn caniatáu i ddysgwyr ennill sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys hyder, gwaith tîm a gwytnwch sy’n ofynion gorfodol ar gyfer cyflogaeth o fewn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r cwrs yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n darparu dilyniant i addysg uwch neu gyflogaeth.

Cynnwys y Rhaglen

Bydd pob dysgwr yn dilyn llwybr sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Mae cymwysterau cenedlaethol lefel tri NCFE mewn gwasanaethau cyhoeddus yn galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer symud ymlaen i gymwysterau lefel uwch megis graddau neu ddiplomâu cenedlaethol uwch. Byddai gyrfaoedd sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r diploma a’r diploma estynedig yn cynnwys heddwas, diffoddwr tân, parafeddyg, aelod o luoedd Ei Fawrhydi, cyllid a thollau Ei Fawrhydi, sefydliadau gwasanaeth cymunedol a sefydliadau sy'n gysylltiedig â gwasanaethau brys.

Dull asesu

Mae asesu parhaus, monitro gwaith cwrs ac aseiniadau'n cyfrif tuag at y dyfarniad terfynol.

Gofynion Mynediad

Pump TGAU graddau A*-C, sy’n cynnwys naill ai Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg. Neu wedi cwblhau cymhwyster lefel dau yn llwyddiannus mewn pwnc galwedigaethol perthnasol gyda theilyngdod neu uwch.

Asesir yr holl ymgeiswyr ar sail unigol a chynigir cyfle iddynt ddod am gyfweliad ar gyfer y cwrs.

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol 

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB