Croeso i Gelf a Dylunio yng Ngholeg Ceredigion.
Rydym yn gweithio mewn stiwdios, switiau golygu digidol ac ystafelloedd tywyll modern, pwrpasol. Mae’r rhaglen yn addysgu ystod eang o ddeunyddiau a thechnegau sy’n cynnwys 2D, 3D, Cyfryngau digidol a chyfryngau lens, Patrymau a Thecstilau. Wrth i chi symud trwy'r cwrs, cewch gyfle i gymhwyso'r sgiliau hyn trwy ystod o brosiectau a themâu.
Cewch eich annog i ennill sgiliau mewn meddwl beirniadol, gan gyflwyno eich gwaith celf trwy drafodaethau grŵp a chyfleoedd arddangos trwy gydol y ddwy flynedd. Bob blwyddyn byddwch chi'n cymryd rhan mewn arddangosfa Prosiect Mawr Terfynol diwedd blwyddyn a fydd yn caniatáu i chi blymio'n ddwfn i thema annibynnol.
Rydym hefyd yn cysylltu ag ystod eang o siaradwyr ymweliadol a rhithwir, ymarferwyr celf a phobl greadigol ledled y byd.
Byddwch hefyd yn astudio ac yn ymchwilio i ystod o gyfleoedd dilyniant sydd ar gael ym maes Celf a Dylunio, yn ogystal â derbyn cefnogaeth i baratoi portffolios ac ar gyfer cyflogaeth neu Addysg Uwch yn y dyfodol.
Byddwch yn cael arweiniad a chymorth gyda phrosesau a dulliau technegol. Yn ogystal, cewch y lle i ddatguddio ymhle y mae eich llecyn chi yn y maes celf a dylunio.