Byddwch yn archwilio amrywiaeth o feysydd cwricwlwm o fewn celf a dylunio cyn dewis pa lwybr arbenigol sy'n addas i'ch diddordebau personol chi. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau wrth weithio gydag amrywiaeth o ddeunyddiau a phrosesau a fydd yn eich helpu i gynhyrchu a datblygu syniadau a chanlyniadau.
Caiff eich astudiaethau eu cefnogi gan astudiaethau cyd-destunol ac yn ystod y rhain byddwch yn ymchwilio i ymarfer cyfoes a hanesyddol mewn celf a dylunio. Byddwch yn ennill mewnwelediad o syniadau a dulliau gwahanol ymarferwyr ac yn defnyddio eich ymchwil i lywio ac ysbrydoli eich ymarfer eich hun.
Cyfoethogir y dysgu gan weithdai a sgyrsiau oddi wrth artistiaid a dylunwyr ymweliadol ac mae yna nifer o deithiau i orielau celf trwy gydol y flwyddyn, yn lleol ac ymhellach i ffwrdd hefyd.
Mae’r stiwdios celf, mawr, pwrpasol yn caniatáu dosbarthiadau lluniadu’r byw yn ogystal â mannau unigol i alluogi datblygiad gweithgareddau arbenigol. Rhai o’r cyfleusterau sydd ar gael yw ystafell dywyll ffotograffiaeth, stiwdio oleuadau, gwasg brintio a chyfarpar sgrîn-brintio, peiriannau gwnïo, SLRs digidol, iPads, cyfrifiaduron Mac a mynediad i’r swît Adobe Creative.
Cyflwynir y rhaglen ar bedwar diwrnod yr wythnos (ar hyn o bryd dau ddiwrnod llawn a dau hanner diwrnod) am 35 wythnos ac nid oes unrhyw ffioedd dysgu.