Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 2 Flynedd

  • Campws Aberteifi

Oes gennych chi awch am yr awyr agored ac yn hoffi heriau newydd?  Oes gennych chi awydd i brofi ystod eang o weithgareddau awyr agored?

Mae chwaraeon a gweithgareddau awyr agored yn faes sy'n symud yn gyflym ac yn tyfu'n barhaus yng Nghymru a ledled y byd. Ar hyn o bryd mae miliynau o bunnoedd yn cael eu gwario ar greu gweithgareddau awyr agored sy'n arddangos ein hadnoddau naturiol hardd wrth fynd ar drywydd hamdden ac i'r rheiny sy'n chwilio am antur hefyd.  Mae'r cwrs hwn yn darparu cyfle gwych i chi ennill cymwysterau a all ddarparu carreg sarn naill ai i addysg uwch neu i fyd cyflogaeth.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y dysgwyr hynny sy'n dymuno dysgu mwy am yr awyr agored trwy sesiynau ymarferol.  Caiff y sgiliau hyn eu hatgyfnerthu gan sesiynau theori yn yr ystafell ddosbarth.  Bydd y cwrs yn datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth o fewn y maes, ochr yn ochr â datblygu sgiliau hanfodol fel llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol. Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar o safon y diwydiant megis ein cae chwarae 4G, ein neuadd chwaraeon, campfa ffitrwydd a’n swît ddadansoddi. Yn ogystal â darpariaeth awyr agored ar ffurf cyfarpar chwaraeon dŵr a chyfarpar dringo a ddarperir gan ein partneriaid allanol.  Byddwch yn cael y cyfle i gael nifer o gymwysterau ychwanegol gan gyrff llywodraethu tra ar y cwrs, megis Cymorth Cyntaf Awyr Agored a Hyfforddwr Padlo i enwi ond ychydig.  Cewch eich annog hefyd i gymryd rhan yn ein cynllun Dug Caeredin sy'n anelu at ddatblygu eich gwaith tîm a'ch sgiliau alldaith

Bydd myfyrwyr yn astudio dau gymhwyster dros gyfnod eu cwrs dwy flynedd, gan gwblhau cymhwyster Sylfaen Cenedlaethol lefel tri mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored ym mlwyddyn un, a symud ymlaen i Ddiploma Estynedig Cenedlaethol lefel tri mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored ym mlwyddyn dau.

Nodweddion y Rhaglen

Ymhlith y meysydd astudio mae:  Iechyd, Lles a Chwaraeon, Datblygu Sgiliau Personol mewn Gweithgareddau Awyr Agored, Hunangyflogaeth mewn Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol, Ffactorau Iechyd a Diogelwch mewn Dysgu Awyr Agored, Darpariaeth Gweithgareddau Awyr Agored, Cynaladwyedd ac Alldeithiau Awyr Agored.

Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau mewn trefnu, cynllunio dilyniant personol ac ymchwil ar lefel briodol.

Trwy gydol y cwrs byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol ymhellach trwy ein Twlcit Sgiliau Hanfodol Cymru ar-lein (WEST) ynghyd â chyfle i ddatblygu eich sgiliau arweinyddiaeth trwy arwain sesiynau hyfforddi, trefnu digwyddiadau a dysgu sgiliau chwaraeon dŵr a dringo newydd.

Cynnwys y Rhaglen

Mae'r cwrs 12 uned yn cyfuno theori â dulliau dysgu ymarferol.  Mae 1080 GLH yn gyfwerth o ran maint â thri phwnc Safon Uwch.

Blwyddyn 1:

  • Uned A: Gyrfaoedd yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden Egnïol
  • Uned B: Iechyd, Lles a Chwaraeon
  • Uned C1: Datblygu Sgiliau Personol mewn Gweithgareddau Awyr Agored
  • Uned 2: Hunangyflogaeth mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol
  • Uned 24: Ffactorau Iechyd a Diogelwch mewn Dysgu Awyr Agored
  • Uned 25: Darpariaeth Gweithgareddau Awyr Agored

Blwyddyn 2:

  • Sgiliau ar gyfer gweithgareddau ar y dŵr
  • Egwyddorion ac arferion mewn antur awyr agored
  • Ymarfer, iechyd a ffordd o fyw 
  • Maetheg chwaraeon
  • Sgiliau ar gyfer gweithgareddau ar-dir
  • Paratoi ar gyfer gyrfa mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol
  • Campau unigol ymarferol
  • Asesu Risg mewn chwaraeon
  • Arweinyddiaeth mewn chwaraeon
Dilyniant a Chyflogaeth

Gall cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus arwain at gyfleoedd yn y sector chwaraeon, hamdden ac iechyd yn ogystal â'r sector gwasanaethau cyhoeddus.  Gall hyn gynnwys cyflogaeth mewn canolfannau awyr agored, canolfannau hamdden, campfeydd ffitrwydd, cyrff llywodraethu, yr heddlu a gwasanaethau brys eraill, yn ogystal â chyrsiau addysg uwch perthnasol mewn prifysgol sy'n arwain at y proffesiynau canlynol;

Hyfforddwr Awyr Agored, Gwyddonydd Chwaraeon, Therapydd Chwaraeon, Seicolegydd Chwaraeon ac Ymarfer, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, Ffisiolegydd Ymarfer Clinigol, Ymgynghorydd Ymarfer Atgyfeiriadau Meddygon Teulu, i enwi ond ychydig.

Dull asesu

Aseiniadau ysgrifenedig a asesir yn fewnol yn bennaf yw’r asesiadau a gyflawnir drwy asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, llyfrau log, defnyddio tystiolaeth fideo, profion llyfr agored, taflenni/pamffledi, ac ati.  Caiff pob uned ei graddio fel Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth, gyda gradd driphlyg gyffredinol e.e. PTRh yn cael ei dyfarnu ar ôl cwblhau.

Gofynion Mynediad

O leiaf pump TGAU graddau A*-C/9-4, gan gynnwys naill ai Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith gyntaf) a mathemateg.

Mae cael TGAU Addysg Gorfforol yn fanteisiol, ond nid yn hanfodol. Derbynnir dilyniannau o Lefel 2 Chwaraeon gyda phroffil TT. Nid yw profiad blaenorol mewn gweithgareddau awyr agored yn hanfodol ond mae awydd i roi cynnig ar weithgareddau newydd yn ddymunol.  Asesir pob dysgwr ar sail unigol trwy gyfweliad.

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 i gofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a phrynu'r cit awyr agored sylfaenol i'w ddefnyddio mewn gweithgareddau awyr agored a theithiau coleg wythnosol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB