Cewch y cyfle i ddatblygu eich sgiliau llythrenedd, rhifedd a’ch galluoedd digidol. Darperir cyfleoedd yn ogystal i wella graddau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg. Mae enghreifftiau o unedau yn y prif gymhwyster yn cynnwys:
Cyflwyno Cynhyrchion y Cyfryngau a Chynulleidfaoedd
Nod yr uned hon yw caniatáu i ddysgwyr ddeall sefydliadau’r cyfryngau, sut maen nhw’n gweithio a’r cynhyrchion maen nhw’n eu cynhyrchu. Bydd dysgwyr yn deall prosesau cynhyrchu, cynulleidfaoedd targed, dosbarthu a marchnata drwy ddadansoddi cynhyrchion y cyfryngau.
Ffotograffiaeth ar gyfer cynhyrchion y Cyfryngau
Trwy gwblhau’r uned hon bydd dysgwyr yn deall ffotograffau proffesiynol a ddefnyddir mewn cynhyrchion cyfryngau. Bydd dysgwyr yn deall sut i gynllunio i gymryd ffotograffau ar gyfer cynnyrch cyfryngau penodol, gan gynnwys sut i gymryd a golygu ystod o ffotograffau. Yn ogystal, bydd dysgwyr yn deall sut i adolygu’r ffotograffau terfynol a gynhyrchir.
Cynhyrchion cyfryngau Ffilm a Theledu
Trwy gwblhau’r uned hon, bydd dysgwyr yn deall cynhyrchion cyfryngau ffilm a theledu presennol. Bydd dysgwyr yn gallu cynllunio ar gyfer cynhyrchu darn dau funud, ar gyfer cynnyrch cyfryngau ffilm neu deledu gwreiddiol. Byddant yn ennill peth sgiliau ymarferol trwy gynhyrchu a golygu eu darn eu hunain.
Bydd pob dysgwr yn dilyn Llwybr Sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.