Os ydych chi'n hoffi creu cynnwys creadigol fel defnydd ar gyfer mynegiant artistig a chyfathrebu i ymgysylltu â chynulleidfaoedd, yna mae'r cwrs hwn yn gam ar yr ysgol i ddefnyddio cyfryngau digidol, ffilm a fideo ac animeiddio.
Mae’r cwrs cyfryngau creadigol lefel tri hwn wedi’i gynllunio i roi ystod o sgiliau creadigol, ymarferol ac academaidd lefel uchel i chi gan ddefnyddio meddalwedd o safon y diwydiant a gellir ei ddefnyddio i symud ymlaen i’r brifysgol.
Gyda ffocws ymarferol ac mewn adran sydd ag adnoddau gwych, mae myfyrwyr yn astudio ac yn gwneud ffilmiau (fideos ffuglen, dogfennol a cherddoriaeth), animeiddiadau, graffeg, ymgyrchoedd hysbysebu, a phortffolios ffotograffiaeth. Caiff y cwrs hwn gan y Corff Dyfarnu, Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) ei danategu gan ddealltwriaeth o’r diwydiant cyfryngau, dadansoddiad manwl o gynnwys y cyfryngau, yn ogystal ag ymateb i friffiau proffesiynol.
Mae gennym stiwdio bwrpasol ar gyfer ffilmio a ffotograffiaeth, camerâu proffesiynol manylder uwch, trybeddau, traciau, microffonau, genweiriau sain a goleuadau y gall myfyrwyr, ar ôl iddynt gael eu hyfforddi, eu benthyg i wneud ffilmiau. Mae gennym hefyd dair swît olygu bwrpasol gydag Apple Macs (un i bob myfyriwr ar y cwrs) a'r meddalwedd proffesiynol diweddaraf, gan gynnwys Adobe Creative Suite (Photoshop, Premiere Pro ac ati) ar gyfer golygu a graffeg.
Mae ffocws go iawn ar ddarparu disgwyliadau a safonau proffesiynol, gan gynnwys prosiectau terfynol uchelgeisiol (ym mha bynnag gyfrwng mae’r myfyriwr yn ei ddewis) ar ddiwedd pob blwyddyn. Mae profiad gwaith realistig trwy friffiau cleientiaid proffesiynol, gwaith prosiect ar y cyd â chyflogwyr lleol a gweithgarwch traws gwricwlaidd.
Mae gwaith y myfyrwyr o safon uchel iawn ac rydym wedi cael nifer o lwyddiannau mewn gwyliau ffilm megis Zoom a Ffresh.