Lefel 3 mewn Therapi Harddwch

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • Blwyddyn

  • Campws Aberteifi

Mae therapi harddwch yn yrfa sy’n amrywiol iawn gan y gall arwain at rolau mewn salonau, sbas, llongau gwyliau a gwestai.

Os ydych yn awyddus i ddechrau gyrfa yn y diwydiant harddwch, mae hwn yn gwrs cyffrous, a fydd yn eich galluogi i weithio gyda'r cyhoedd yn ein cyfleuster salon o’r radd flaenaf, Academi Steil, sy'n salon masnachol cwbl weithredol.      

Byddwch yn dysgu ac yn datblygu sgiliau ymarferol yn y canlynol: monitro gweithdrefnau er mwyn rheoli gweithrediadau gwaith yn ddiogel,

darparu triniaethau tylino’r corff, cyfrannu at gynllunio a gweithredu gweithgareddau hyrwyddo, tylino pen Indiaidd, tylino cerrig poeth a thylino gan ddefnyddio olewau aromatherapi wedi’u cymysgu’n barod, triniaethau trydanol ar gyfer yr wyneb.  Byddwch hefyd yn astudio anatomeg a ffisioleg i ennill gwybodaeth greiddiol am yr unedau uchod. 

Nodweddion y Rhaglen

Mae ein salonau gwallt a harddwch yn eithriadol ac yn caniatáu i chi hyfforddi a gweithio mewn amgylchedd salon masnachol, gan weithio ar aelodau'r cyhoedd yn wythnosol. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i fynychu: sioeau masnach, seminarau, gweithdai yn ogystal â theithiau a drefnir sy’n gysylltiedig â’r sector a chymryd rhan mewn cystadlaethau. 

Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer diwydiant ac yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio mewn salonau, sbas, siopau adrannol, gwestai, llongau gwyliau, yn ogystal â hunangyflogaeth.    Mae llawer o fyfyrwyr o Goleg Ceredigion wedi mynd ymlaen i sefydlu eu busnesau eu hunain neu i weithio i sbas yn eu hardal leol ac ymhellach i ffwrdd. Mae hwn yn gwrs rhagorol sy'n darparu’r cyfle i chi hogi eich sgiliau gwasanaeth cwsmer, i weithio gyda'r cyhoedd ac i adeiladu enw da a chronfa gleientiaid.

Dull asesu

Cewch eich asesu’n ymarferol yn y salon a bydd angen i chi sefyll profion uned i arddangos eich gwybodaeth yn y pynciau uchod.

Gofynion Mynediad

Rhaid bod ymgeiswyr wedi cwblhau diploma lefel dau mewn therapi harddwch a mynychu cyfweliad yn llwyddiannus gyda thiwtor y cwrs. Mae angen ymrwymiad i weithio gyda'r cyhoedd mewn amgylchedd salon ac agwedd bositif tuag at astudio. Mae prynu tiwnig harddwch a chit harddwch yn un o ofynion y cwrs.

Costau Ychwanegol

Mae prynu tiwnig harddwch a chit harddwch yn un o ofynion y cwrs. Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol. 

Cyrsiau Cysylltiedig


Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB